Mae ein Clwb Celf arferol ddydd Mawrth yn croesawu’r artist gwadd Erin Hughes i gyflwyno sesiwn galw heibio gymunedol gynhwysol sy’n addas i bob oedolyn. Bydd y sesiwn arbrofol hon yn archwilio technegau marmori papur i greu dyluniadau unigryw. Gwisgwch ddillad hen i’r sesiwn hon gan y gallai fod yn flêr!
Astudiodd Erin yn Ysgol Gelf Ruskin ym Mhrifysgol Rhydychen, a derbyniodd MA o’r Coleg Celf Brenhinol. Mae hi wedi arddangos yn helaeth yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag yn Berlin, Tokyo ac Athen. Mae ganddi gydweithrediad parhaus â Phedwarawd Will Barnes, gan gyfrannu delweddau marmori hylif byw i gyd-fynd â’u perfformiadau cerddorol.
Sesiwn galw heibio – does dim angen archebu!
Croeso i bawb!