Scroll Top
Tŷ Pawb, Market Street, Wrexham LL13 8BY

Matinée Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Amser Cinio

Time:
-
Venue:
Location:
Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham. More info
Calendar:
Matinée Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Amser Cinio

Mynediad am Ddim, Croesewir Rhoddion
1pm i 2pm
Dydd Mercher 02ail o Orffenaf

Juanjo Blázquez – Datganiad Piano

Mae tymor y Gwanwyn / Haf o gyngherddau clasurol a chyfoes amser cinio ar y gweill. Yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw gan ystod amrywiol o gerddorion a genres. Gallwch fynychu’r cyngerdd yn ddigymell yn ystod eich egwyl ginio, mae’r rhaglen yn para 45 i 55 munud ac yn aml yn arddangos cerddoriaeth siambr, datganiadau piano unigol, cerddoriaeth werin, gitâr glasurol a deuawdau clasurol. Mae perfformiadau bob yn ail ddydd Mercher rhwng 1pm a 2pm yn ein Gofod Perfformio, mae mynediad am ddim ond rydym yn croesawu rhoddion.

Ar ddydd Mercher yr 2il o Orffennaf rydym wrth ein bodd yn croesawu Juanjo Blázquez i berfformio datganiad Piano. Ganwyd Juanjo yn Lorca (Sbaen) ym 1998, a dechreuodd ei astudiaethau piano yng Nghonservatoire Narciso Yepes yn 8 oed. Mae Juanjo wedi derbyn dosbarthiadau meistr gan athrawon fel Lilya Zilberstein, Anna Malikova, Stefan Vladar, Jean-Efflam Bavouzet, Stephen Hough, Eldar Nebolsin, Claudio Martínez-Mehner, ac Eliso Virsaladze ymhlith eraill.
Yn fwy na dim, mae Juanjo yn mwynhau rhyngweithio cymdeithasol cerddoriaeth. Mae ei gariad sylfaenol at berfformio yn cael ei yrru gan iaith cerddoriaeth, nid yn unig ffurf hardd o fynegiant a chyfathrebu rhwng cerddorion cydweithredol, ond hefyd rhwng cerddorion a’r cyhoedd. Am y rheswm hwn, un o’i lawenydd mwyaf yw chwarae cerddoriaeth siambr, deuawdau piano, a concerti piano gyda cherddorfeydd, a faint mae’n ei olygu i rannu’r angerdd hwn gyda chynulleidfa.