BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:-//Tŷ Pawb - ECPv6.18.2//NONSGML v1.0//EN
CALSCALE:GREGORIAN
METHOD:PUBLISH
X-WR-CALNAME:Tŷ Pawb
X-ORIGINAL-URL:https://www.typawb.wales/?lang=cy
X-WR-CALDESC:Events for Tŷ Pawb
REFRESH-INTERVAL;VALUE=DURATION:PT1H
X-Robots-Tag:noindex
X-PUBLISHED-TTL:PT1H
BEGIN:VTIMEZONE
TZID:Europe/London
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20170326T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20171029T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20180325T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20181028T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20190331T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20191027T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20200329T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20201025T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20210328T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20211031T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20220327T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20221030T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20230326T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20231029T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20240331T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20241027T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20250330T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20251026T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20260329T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20261025T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20270328T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20271031T010000
END:STANDARD
END:VTIMEZONE
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20261007T180000
DTEND;TZID=Europe/London:20261007T193000
DTSTAMP:20260914T124112Z
CREATED:20260914T124112Z
LAST-MODIFIED:20260914T124112Z
UID:10003505-1791396000-1791401400@www.typawb.wales
SUMMARY:Mewn Sgwrs: Anthony Shapland / Marie-Anne McQuay / Jo Marsh
DESCRIPTION:Fel rhan o raglen gyhoeddus ein harddangosfa bresennol\, MURMUR – arddangosfa unigol gan yr artist\, gwneuthurwr ffilmiau ac awdur Anthony Shapland – rydym yn falch iawn o gynnal digwyddiad sgwrsio byw wyneb yn wyneb rhwng Anthony\, y curadur gwadd Marie-Anne McQuay a Chyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb\, Jo Marsh.  \nGyda’i gilydd\, byddant yn trafod themâu’r arddangosfa\, gan gynnwys hunaniaeth ‘queer’ a dosbarth gweithiol mewn cymunedau gwledig ac ardaloedd ymylol (edgelands)\, yn ogystal â dynwarediad a rhith yn y byd natur a diwylliant\, a’r ffyrdd y mae Anthony yn integreiddio ysgrifennu yn ei waith celf gweledol. \nAnthony Shapland\nMae Anthony Shapland yn awdur ac artist o Gymru. Ef yw sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol g39 yng Nghaerdydd. Mae ei waith fel awdur ac artist yn adeiladu ar y syniad bod y byd wedi’i greu yn yr un ffordd â set ffilm – yn esblygu’n gyson ac yn dros dro. \nCyhoeddwyd ei nofel gyntaf\, *A Room Above a Shop*\, gan Granta; cafodd ei gydnabod fel un o’r 10 awdur nofel gyntaf gorau yn 2025 gan *The Observer*\, ac enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn Gŵyl y Gelli 2025\, Llyfr Cymreig y Flwyddyn Waterstones 2025\, a Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru (Llenyddiaeth Cymru) 2026\, yn ogystal â chael ei gynnwys ar restr fer Gwobr Gordon Burn Trust yn 2026. Mae wedi arddangos ei waith yn flaenorol yn: Canolfan Celfyddydau Aberystwyth; Tate Liverpool (digwyddiad ‘Late at Tate’); Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Oriel Davies; Exeter Phoenix; Beef\, Bryste; Crate\, Margate; Union Square\, Melbourne; Oriel Tanya Leighton\, Berlin; a Chanolfan Celfyddydau Chapter\, Caerdydd (2007). \n  \nARCHEBWCH DROS EVENTBRITE \nAnthony Shapland\nAnthony Shapland is a Welsh writer and artist. He is the founder and Creative Director of g39\, Cardiff. His output as a writer and artist builds on his sense that the world is constructed in the same way as a film set – constantly evolving and temporary. \nHis debut novel\, A Room Above a Shop is published by Granta and is he one of the Observers 10 debut novelists 2025\, also winning Hay Festival Book of the Year 2025; Waterstones Welsh Book of the year 2025; Literature Wales 2026 Wales Book of the Year Award\, as well as Gordon Burn Trust Shortlist 2026. He has previously exhibited at Aberystwyth Arts Centre; Tate Liverpool LATE AT TATE\, Liverpool; National Museum of Wales; Oriel Davies; Exeter Phoenix; Beef\, Bristol; Crate\, Margate; Union Square\, Melbourne; Tanya Leighton Gallery\, Berlin; Chapter Arts Centre\, (2007)\, Cardiff.
URL:https://www.typawb.wales/event/mewn-sgwrs-anthony-shapland-marie-anne-mcquay-jo-marsh/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd,Digwyddiadau
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2026/09/In-Conversation.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20260824T080000
DTEND;TZID=Europe/London:20260824T170000
DTSTAMP:20260824T203335Z
CREATED:20260824T203335Z
LAST-MODIFIED:20260824T203335Z
UID:10003386-1787558400-1787590800@www.typawb.wales
SUMMARY:Julie Cope’s Grand Tour: The Story of a Life by Grayson Perry
DESCRIPTION:Cymeriad ffuglennol a grëwyd gan Grayson Perry yw Julie Cope – dynes gyffredin o Essex y mae’n adrodd ei hanes drwy ddau dapestri graddfa fawr a baled estynedig a gyflwynir yn yr arddangosfa.  \nMae The Essex House Tapestries: the Life of Julie Cope yn amlygu’r pethau allweddol sy’n digwydd i’r arwres ar hyd ei thaith\, ac mae The Ballad of Julie Cope yn mynegi ei gobeithion a’i hofnau wrth dyfu i fyny\, dod i oed a chael ei thraed oddi tani ym Mhrydain fodern.\nArddangosfa deithiol gan y Cyngor Crefftau oedd hon.
URL:https://www.typawb.wales/event/julie-copes-grand-tour-the-story-of-a-life-by-grayson-perry/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/10/IMG_6495.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20260703
DTEND;VALUE=DATE:20260718
DTSTAMP:20260605T164943Z
CREATED:20260605T164943Z
LAST-MODIFIED:20260605T164943Z
UID:10002992-1783036800-1784332799@www.typawb.wales
SUMMARY:Sioe Gradd: Ysgol Gelf Wrecsam 2026
DESCRIPTION:Arddangosfa o waith celf a dylunio gan fyfyrwyr BA(anrh) o: \nCelfyddyd Gymhwysol\ncerameg • gemwaith/gwaith metel \nDylunio\nanimeiddio • dylunio graffig • darlunio • comics \nCelfyddyd Gain \nFfotograffiaeth \nYmunwch â ni ar gyfer y digwyddiad lansio: 5.30pm – 8pm Gorffennaf 3ydd\nI’w agor gan yr artist Bedwyr Williams \nOriau agor yr oriel: 10am-4pm
URL:https://www.typawb.wales/event/sioe-gradd-ysgol-gelf-wrecsam-2026/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/png:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2026/06/1780676908767-79a0a271-9939-435a-8e0d-4d6c2e9ce2e6_1.png
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20260418
DTEND;VALUE=DATE:20260628
DTSTAMP:20260319T100542Z
CREATED:20260319T100541Z
LAST-MODIFIED:20260319T100542Z
UID:10002510-1776470400-1782604799@www.typawb.wales
SUMMARY:Arddangosfa: Effaith: Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru (2025-26)
DESCRIPTION:Mae Effaith yn arddangosfa sy’n dangos safbwyntiau pobl anabl ar un o faterion mwyaf brys ein hoes: yr argyfwng hinsawdd. Yn dilyn galwad agored\, detholwyd artistiaid anabl\, b/Byddar a niwrwahanol i ymateb i themâu natur\, tirwedd a chyfiawnder hinsawdd o safbwynt anabledd. \nMae’r arddangosfa hefyd yn arddangos dau gomisiwn a grëwyd fel rhan o brosiect Effaith\, un mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac un mewn partneriaeth â Chorsydd Calon Môn. \nMae’r comisiwn gydag Amgueddfa Cymru wedi’i cefnogi gan CELF\, partneriaeth oriel gelf gyfoes cenedlaethol Cymru sy’n gweithio gyda’n cynulleidfaoedd drwy Gymru a thu hwnt i gynyddu mynediad at y gweithiau celf yn y casgliad. Creodd y comisiwn hwn gyfle i’r artist ymateb i thema Effaith a’r Casgliad Cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru. Kathryn Ashill wnaeth derbyn y comisiwn yma ac mae wedi creu gwaith sy’n archwilio’r corff anabl a’i berthynas â chyrff dŵr naturiol. \nMae comisiwn Corsydd Calon Môn yn tynnu sylw at unigrywiaeth a bregusrwydd corsydd Ynys Môn. Wedi’i ariannu drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol\, mae Corsydd Calon Môn yn brosiect cydweithredol sy’n ceisio sicrhau dyfodol Corsydd Ynys Môn wrth ddathlu eu diwylliant a’u treftadaeth doreithiog. Mae’r prosiect yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y corsydd i bobl\, i natur\, ac i ymladd yn erbyn newid hinsawdd. Dyfarnwyd y comisiwn i Catherine Taylor Parry ac mae wedi creu gwaith sy’n ymateb i toreithrwydd yr amgylchedd ac yn myfyrio ar y gors fel cofnod naturiol o amser. \nO Chwefror 2026 i Fawrth 2027\, bydd arddangosfa Effaith yn teithio ledled Cymru i bum oriel Cymraeg mwyaf blaenllaw: Galeri\, Caernarfon; Tŷ Pawb\, Wrecsam; g39 Caerdydd; Glan yr Afon\, Casnewydd; a Chanolfan y Celfyddydau\, Aberystwyth. \nArtistiaid dethol: \nAdele Vye\, Alison Robertson\, Bev Bell Hughes\, Beverly Marmont-Hill\, Catherine Taylor Parry\, Catrin Gwilym\, Cerian Lloyd\, Cheryl Beer\, Dea Neile-Hopton\, Durre Shahwar\, Eileen Harrisson\, Emma Frayne-Ford\, Grant Lambie\, Jane Campbell\, Jamie Lawrence\, Jill Powell\, Kathryn Ashill\, Linda and Bethany Sutton\, Mars da Silva Saude\, Polly Hill\, Rhowan Alleyne on behalf of Ceredigion Animation Club\, Rohan Powell\, Sally Pearce\, Tracey McMaster \nGyda diolch i artist DAC Booker T Photography\, sy’n creu celf gynhwysol trwy greu printiau 3D cyffyrddol o ddelweddau 2D. Mae Booker wedi creu printiau cerfweddol cyffyrddol 3D ar gyfer pob darn o waith celf yn Arddangosfa Deithiol Genedlaethol DAC\, Effaith\, gan wneud y gwaith yn hygyrch trwy gyffwrdd. \nGyda diolch i ddetholwyr yr arddangosfa:\nDr. Kate Brehme\, BerlinKlusion\, Yr Almaen\nBethany Handley\, Awdur / Bardd / Ymgyrchydd Anabledd\, Cymru\nArty Jen Jo\, Artist\, Cymru
URL:https://www.typawb.wales/event/arddangosfa-effaith-arddangosfa-deithiol-genedlaethol-celfyddydau-anabledd-cymru-2025-26/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/png:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2026/03/Effaith-4x3-1.png
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20260418
DTEND;VALUE=DATE:20260628
DTSTAMP:20260408T095521Z
CREATED:20260105T122856Z
LAST-MODIFIED:20260408T095521Z
UID:10002343-1776470400-1782604799@www.typawb.wales
SUMMARY:Arddangosfa: Darch - You Have Done This Before
DESCRIPTION:Mae You Have Done This Before yn osodiad rhyngweithiol a ffilm ddwy sianel sy’n archwilio cysylltiadau pobl ifanc â natur trwy ddefodau dod i oed. \nWedi’i ddatblygu gan DARCH – artistiaid anabl Cymru Umulkhayr Mohamed a Radha Patel – mae’r gwaith yn tynnu ar linachau diwylliannol Somali\, Indiaidd a Chymreig i greu defodau newydd sy’n anrhydeddu personoliaeth lawn plant. Wedi’i ddatblygu trwy weithdai gyda phobl ifanc yn Wrecsam\, mae’r prosiect yn gwahodd ymwelwyr i fyfyrio ar ieuenctid\, doethineb coll a’r hyn y mae’n ei olygu i etifeddu byd sydd wedi’i siapio gan argyfwng hinsawdd. \nYmunwch â ni ar gyfer y digwyddiad lansio ar y cyd ar gyfer DARCH – You Have Done This Before a’n harddangosfa newydd arall\, Effaith – Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru (2025–26)\, ar ddydd Gwener 17 Ebrill o 5.30pm.
URL:https://www.typawb.wales/event/arddangosfa-darch-you-have-done-this-before/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2026/01/DARCH-Artists-Portrait.-Photograph-by-Umulkhayr-Mohamed.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20260207
DTEND;VALUE=DATE:20260405
DTSTAMP:20260105T115317Z
CREATED:20250913T150826Z
LAST-MODIFIED:20260105T115317Z
UID:10002115-1770422400-1775347199@www.typawb.wales
SUMMARY:Arddangosfa: Jonathan Le Vay - Opus
DESCRIPTION:Ganwyd Jonathan Le Vay yn Llundain\, astudiodd yng Ngholeg Celf Caerdydd (1979-82) a Choleg Celf Cyprus (1985-86) ac mae wedi byw yng Ngogledd Cymru ers dros 35 mlynedd. Mae’n bianydd a chyfansoddwr jazz medrus sydd â diddordeb cryf yn y Celfyddydau Gweledol ac mae’n guradur uchel ei barch. \n \nArddangosfa unigol yw hon sy’n cynnwys paentiadau mawr gan ddefnyddio arsylwi fel man cychwyn ar gyfer strwythur\, patrwm\, cyfansoddiad\, arwynebau hardd\, lliw a symudiad. Defnyddir yr elfennau ffigurol hyn a arsylwyd fel cyfrwng ar gyfer mynegiant pleserus ac maent yn galluogi mwynhad optegol hawdd ei gyrraedd. \nFel haen ychwanegol\, bydd rhai paentiadau’n cael eu paru â darnau byr o gerddoriaeth wreiddiol y gellir eu cyrchu trwy god QR\, gan gynnig profiad aml-synhwyraidd a fydd yn atseinio gyda chariadon celf a cherddoriaeth fel ei gilydd ac yn rhoi cipolwg ar feddwl yr artist.
URL:https://www.typawb.wales/event/arddangosfa-jonathan-le-vay/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20251108
DTEND;VALUE=DATE:20260125
DTSTAMP:20251202T010833Z
CREATED:20250901T173144Z
LAST-MODIFIED:20251202T010833Z
UID:10001382-1762560000-1769299199@www.typawb.wales
SUMMARY:Print Rhyngwladol 2025
DESCRIPTION:Mae ein harddangosfa brintiau ddwyflynyddol yn dychwelyd! \nYn cynnwys: \nEast London Printmakers\nConstructure\nPrinting in Dutch\nRed Plate Press\nRegional Print Centre\nSpike Print Studio \nYmunwch â ni ar gyfer y digwyddiad lansio ddydd Gwener 7fed Tachwedd\, 5.30pm-7.30pm. \nOriau agor yr oriel: Llun-Sad\, 10am-4pm. \n \n34 29 13 06 02 20
URL:https://www.typawb.wales/event/print-rhyngwladol-2025/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/09/03.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20250711
DTEND;VALUE=DATE:20251026
DTSTAMP:20260408T154640Z
CREATED:20250226T115751Z
LAST-MODIFIED:20260408T154640Z
UID:10000320-1752192000-1761436799@www.typawb.wales
SUMMARY:Exhibition: Allanol Always
DESCRIPTION: Allanol Always was a solo show by Welsh-Ghanaian artist Anya Paintsil on view from July to November 2025. \nDelving into the complex expectations placed on Black artists regarding beauty\, heritage\, and representation; Allanol Always challenges the problematic pressure to depict Black figures through the lens of European high art\, and the marginalisation of African and Caribbean art histories. \nEmbracing Allanol Always as a space for artistic exploration and experimentation\, the show represents a significant moment in Paintsil’s artistic journey and coincides with her permanent return to her hometown of Wrexham later this year. Developing an entirely new and experimental body of work\, Paintsil will experiment with new materials and techniques\, including innovative appliqué methods\, textile assemblages using repurposed and waste fabrics\, and a series of freestanding sculptures created in collaboration with her partner\, weaver Steven William. These sculptural objects\, inspired by Welsh mythology\, lean towards abstraction\, exploring themes of monstrous figuration and the grotesque. \nDrawing from her childhood in North Wales\, folklore and the Fante tradition of figurative textiles\, Paintsil weaves together craft techniques from her youth – rug making\, appliqué and hand embroidery – with those of afro hair styling methods to create bold\, textural portraits. Referencing the enduring influence of traditional West African art in her work and the visual language rooted in the forms of the masks of Kongo peoples\, Aku’aba dolls and Asafo Flags\, Paintsil considers the stark disparities at play where white artists are celebrated for drawing from African art\, labelled as ‘tribal’ or ‘primitive’ in a romanticised sense; whilst Black artists alluding to the very same traditions are at risk of misinterpretation as self-caricature or satire\, which in turn reinforces harmful stereotypes. \nThrough Allanol Always\, Paintsil looks to disrupt these restrictive narratives\, advocating for a broader\, more inclusive understanding of Black art outside of Eurocentric paradigms. The choice of the Welsh word ‘Allanol’\, translating to “outside” or “external\,” in the exhibition’s title speaks to the positioning of African art as “outsider art” within the dominant narratives of Western art history\, an act of othering that Paintsil acknowledges and seeks to directly challenge in their work. The title also resonates with Paintsil’s artistic focus on the human body’s exterior and its significance in shaping individual and collective experiences from which she explores themes of identity\, representation\, and the complexities of the Black female experience. \nFor Paintsil\, the implications of the title are deeply nuanced\, as on a personal level “Allanol” echoes her own experience of otherness as an artist and a woman of colour\, where even within her hometown she has at times felt an outsider navigating societal expectations and her own artistic vision. \nPaintsil’s solo show explores creativity and creative license within Black figuration\, inviting viewers to engage with the work on their own terms. Curated in collaboration with independent curator Lewis Dalton Gilbert\, Allanol Always will be accompanied by a programme of community events at Tŷ Pawb. \nAbout Anya Paintsil\nAnya Paintsil is a Welsh and Ghanaian textile artist who lives and works in London and Glyn Ceiriog. Drawing inspiration from her childhood in North Wales\, and her ancestral\, Fante tradition of figurative textiles\, Paintsil combines craft practices she was taught as a young child; rug making\, appliqué and hand embroidery with afro hairstyling techniques to create large scale portraits. Paintsils’ figures explore the possibilities and politics of non-representative depictions of the Black figure. \nOften mistaken as subversion of ‘primitivism’\, Paintsil deliberately and consciously refuses to root her work in the European Fine Art Canon\, Paintsil’s visual language finds its basis in traditional West African Crafts and Art – carvings\, wood sculptures\, masks – exchanging the hard materials for soft\, in an interrogation of gendered labour\, particularly the labour of working class women. \nAnya made her debut at 1-54 Contemporary African Art Fair in London in 2020\, and since then Anya has received sustained interest from private collectors and public institutions. Recent acquisitions include Stedelijk Museum Amsterdam\, The National Museum of Wales\, The Whitworth Gallery\, Manchester and The Women’s Art Collection at Cambridge University. \n  \n63 55 54 50 38 36 32 11
URL:https://www.typawb.wales/event/exhibition-allanol-always/?lang=cy
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/02/Except-now-Im-drinking-Tokaji-from-Waitrose-copy-2-scaled.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20241116
DTEND;VALUE=DATE:20250209
DTSTAMP:20260216T235917Z
CREATED:20251114T013745Z
LAST-MODIFIED:20260216T235917Z
UID:10002171-1731715200-1739059199@www.typawb.wales
SUMMARY:Exhibition: The Tŷ Pawb Open 2024
DESCRIPTION:The hugely popular Tŷ Pawb Open returns to Wrexham for its 4th edition. \nThe exhibition features over 100 artworks\, including paintings\, sculpture\, ceramics\, textiles & animations. \nThis follows a record response to our open call\, with nearly 450 artists submitting works. \n08 09 14 51 55 65 \nThis year’s Tŷ Pawb Open Judge is Alan Dunn\nAlan Dunn is a Glasgow-born Artist based in Liverpool. He creates artworks using sound and digital images\, collaborating with thousands of citizens to unlock the hidden narrative in communities. Alan is a Reader in Art and Design at Leeds Beckett University and is the current Wal Pawb Artist here at Tŷ Pawb as well as Lead Artist on our current Marchnad/Market Project. \nCongratulations to our award winners:\nJudges Prize (selected by guest judge\, artist Alan Dunn): Anthony Jones.\nTraders Prize (voted for by Tŷ Pawb’s market traders): Alan Roberts.
URL:https://www.typawb.wales/event/__trashed-31__trashed/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/10/08-1.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20240713
DTEND;VALUE=DATE:20241103
DTSTAMP:20261016T113629Z
CREATED:20261016T113629Z
LAST-MODIFIED:20261016T113629Z
UID:10003547-1720828800-1730591999@www.typawb.wales
SUMMARY:NAU\, NAU\, DOH\, CHAAR
DESCRIPTION:Yn cyflwyno “NAU\, NAU\, DOH\, CHAAR”: Ôl-sylliad gan yr Artist Amlddisgyblaethol Liaqat Rasul.\nMae’n bleser gennym eich gwahodd i gychwyn ar daith gyfareddol i fyd “NAU\, NAU\, DOH\, CHAAR\,” (Wrdw ar gyfer 9924)\, arddangosfa ôl-syllol yn Oriel Gelf Tŷ Pawb. \nMae’r arddangosfa ryfeddol hon yn dathlu esblygiad artistig rhyfeddol Liaqat Rasul\, artist amlddisgyblaethol\, ac yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn ei yrfa. \nMae arddangosfa Tŷ Pawb yn dod adref i Rasul\, gan ei fod yn ei ailgysylltu â’i wreiddiau a’i brofiadau cynnar. Roedd magwraeth Rasul wedi’i gydblethu’n ddwfn â byd masnachu’r farchnad a chwaraeodd y dreftadaeth hon ran ganolog wrth lunio ei fywyd a’i yrfa. \nDysgu’r grefft ym marchnadoedd Wrecsam \nYn 11 oed anhygoel o ifanc\, roedd Rasul eisoes yn ymwneud â busnes y teulu\, gan gymryd rôl ‘dresel ffenestr’ ym Marchnad Bwystfilod\, Marchnad Lysiau a Marchnad y Cigyddion. Roedd yr amlygiad cynnar hwn i amgylchedd y farchnad nid yn unig yn rhoi sgiliau ymarferol iddo ond hefyd yn meithrin dealltwriaeth ddofn o ddeinameg y farchnad\, y grefft o gyflwyno\, ac arwyddocâd masnach yn y gymuned. \nI Rasul\, mae ei daith o fod yn ‘dresel ffenestr’ ifanc i fod yn artist a arddangosir yn arddangosfa Tŷ Pawb yn dyst i ddylanwad parhaol masnach ei deulu a’i dwf personol fel artist. Mae’r arddangosfa’n rhoi cyfle unigryw iddo dalu gwrogaeth i’w wreiddiau wrth arddangos esblygiad ei fynegiant artistig. Mae’n adlewyrchiad teimladwy o sut y gall eich magwraeth a’ch profiadau cynnar adael marc annileadwy ar eu hunaniaeth a’u taith greadigol.\nOlrhain taith artistig \nMae’r arddangosfa bwysig hon yn arbennig o arbennig gan ei bod yn nodi arddangosfa sefydliadol unigol gyntaf Rasul yn ei dref enedigol. Mae’n edau uno sy’n plethu oes o greadigrwydd di-ben-draw\, dyfeisgarwch a gallu i addasu. \nMae enw’r arddangosfa yn deillio o’r flwyddyn 1999 pan drawsnewidiodd Rasul ei label ffasiwn\, Ghulam Sakina\, yn gwmni cyfyngedig. Mae’n olrhain yn fanwl lwybr ei daith artistig\, o’i wreiddiau fel dylunydd ffasiwn â gweledigaeth i’r gwaith hawdd ei adnabod ac effaith sy’n ei ddiffinio heddiw. Mae’r teitl hwn\, “NAU\, NAU\, DOH\, CHAAR\,” a’r arddangosfa gyfan\, yn symbol o benllanw blynyddoedd o ymdrech ymroddedig ac yn cynrychioli carreg filltir arwyddocaol yng ngyrfa’r artist.\nMae “NAU\, NAU\, DOH\, CHAAR” yn Tŷ Pawb nid yn unig yn arddangos arfer artistig Liaqat ond hefyd yn cynnig cipolwg ar y dylanwadau amrywiol sy’n tanio ei ysbryd creadigol. Mae’r artist yn tynnu ysbrydoliaeth o ddiwylliannau amrywiol y mae wedi dod ar eu traws\, gyda diddordeb arbennig mewn tecstilau De Asia\, sy’n ysbrydoli tapestri bywiog o liwiau a naratifau yn ei waith. Mae ei straeon yn aml yn treiddio i bynciau o ddewrder\, emosiwn a beiddgarwch\, gan eiriol dros drafodaethau agored ar iechyd meddwl fel agwedd adeiladol ar ein bywydau. Mae ei neges yn ein hannog ni i gyd i fod yn ymwybodol\, dangos caredigrwydd i’n gilydd\, a blaenoriaethu hunanofal. \n‘Profiad trawsnewidiol sy’n ysgogi’r meddwl’ \nMae’r arddangosfa ryfeddol hon wedi’i churadu gan y curadur annibynnol\, Lewis Dalton Gilbert a wahoddwyd i gydweithio â Tŷ Pawb gan yr artist ei hun. Mae’n argoeli i fod yn brofiad trawsnewidiol sy’n ysgogi’r meddwl\, gan eich gwahodd i archwilio byd unigryw ac ysbrydoledig celfyddyd Liaqat Rasul. \n64 05 09 41 71 75 77 110 117
URL:https://www.typawb.wales/event/nau-nau-doh-chaar/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2026/10/64.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20190105
DTEND;VALUE=DATE:20190211
DTSTAMP:20260824T202053Z
CREATED:20260824T202053Z
LAST-MODIFIED:20260824T202053Z
UID:10003384-1546646400-1549843199@www.typawb.wales
SUMMARY:We Can Only See Today
DESCRIPTION:Arddangosfa unigol gan Yoke\, artistiaid cydweithredol Annie Nelson a Chris Woodward. \nAr gyfer eu harddangosfa unigol gyntaf yn y DU\, comisiynwyd Yoke gan Tŷ Pawb i gynhyrchu corff newydd o waith yn ymateb i ymchwil a’r amser a dreuliwyd yn Wrecsam. \nWedi’u dylanwadu gan hanes marchnadoedd Wrecsam a’r rhai sydd yn Nhŷ Pawb heddiw\, mae Yoke wedi tyrchu i’r straeon a’r hanesion am ei datblygiad. O’r ffeiriau teithiol hyd at y lleoliad heddiw fel man cyfarfod a masnachu. \nRoedd ‘We Can Only See Today’ yn cyfuno erthyglau papur newydd\, wedi eu dethol o archifau Amgueddfa Wrecsam\, gyda gwaith celf newydd yn cynnwys cloch farchnad newydd i Tŷ Pawb\, mewn ymgais i archwilio’r berthynas unigryw hon rhwng diwylliant a marchnad a rhannu syniadau gyda’r gynulleidfa.
URL:https://www.typawb.wales/event/we-can-only-see-today/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/10/IMG_9680-Large.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20181012
DTEND;VALUE=DATE:20181217
DTSTAMP:20251214T113316Z
CREATED:20251214T101903Z
LAST-MODIFIED:20251214T113316Z
UID:10002332-1539302400-1545004799@www.typawb.wales
SUMMARY:Exhibition: Wrexham Open 2018
DESCRIPTION:12/10/2018 – 16/12/2018 \nAn open entry exhibition\, displayed across two venues in collaboration with Undegun Arts. A total of 260 works were displayed with four additional performances works taking place throughout the exhibition at both venues. \nIMG_3978 \nThe judges for Wrexham Open 2018 were Thomas Dukes\, Rabab Ghazoul and Simon Job.\nThe prize winners were as follows:\nLesley James – Opposing Views (Judges’ Prize)\nAustin Giffiths – Lucy (People’s Prize)\nLouise Short – Sunset over Stanlow (Prize for Socially Engaged Practice)\nGideon Vass – 100 Pound Project (Young People’s Prize)\nAlan Whitfield – Marram Grass House (Lens-based Media Prize)
URL:https://www.typawb.wales/event/exhibition-wrexham-open-2018/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/10/IMG_3978.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20180901
DTEND;VALUE=DATE:20181001
DTSTAMP:20260824T200750Z
CREATED:20260824T200750Z
LAST-MODIFIED:20260824T200750Z
UID:10003382-1535760000-1538351999@www.typawb.wales
SUMMARY:Shift Work
DESCRIPTION:Daniel Baker\, Shamus McPhee\, Artur Conka\, Billy Kerry \nDaeth Gwaith Sifftiau â phedwar artist at ei gilydd sydd drwy eu gwaith yn procio nifer o faterion esthetig a gwleidyddol sy’n ymwneud â bywydau Sipsiwn\, Roma a Theithwyr drwy gynrychiolaeth ddiwylliannol. Dangoswyd peth o’r gwaith fel cyflwyniadau unigol yn rhan o’r prosiect Gypsy Maker; cysyniad dyfeisgar a chwbl newydd yn eiddo i’r Romani Cultural & Arts Company ac wedi ei ddyfeisio a’i ddatblygu ganddyn nhw hefyd. Y nod oedd comisiynu artistiaid profiadol a rhai sy’n dod i’r amlwg i ddatblygu gwaith newydd sy’n cynnwys cymunedau Sipsiwn Romani a Theithwyr a’r cyhoedd yn ehangach mewn deialog am gelfyddyd gyfoes ac agweddau diwylliannol.
URL:https://www.typawb.wales/event/shift-work/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/10/DSCF6533.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20180810
DTEND;VALUE=DATE:20181028
DTSTAMP:20260408T151354Z
CREATED:20260408T151158Z
LAST-MODIFIED:20260408T151354Z
UID:10002857-1533859200-1540684799@www.typawb.wales
SUMMARY:Exhibition: PLAY-WORK
DESCRIPTION:Archwilio’r Grefft o Weithio Gyda Phlant yn Chwarae\nAssemble\, Morag Colquhoun\, Gareth Griffith\, Ludicology a Gweithwyr Chwarae Wrecsam \nRoedd GWAITH-CHWARAE yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng oedolion a phlant\, ac ar greu cofnod i ddathlu gwaith chwarae radical ers yr 1970au ym meysydd chwarae antur byd-enwog Wrecsam. \nCraidd yr arddangosfa oedd tirlun chwarae\, a gafodd ei ddylunio a’i godi mewn proses ar y cyd rhwng yr artistiaid\, Ludicology\, staff Tŷ Pawb a Thîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid a meysydd chwarae antur Wrecsam. O fewn y tirlun chwarae roedd gwaith comisiwn newydd gan Morag Colquhoun\, a greodd decstilau yn arbennig ar gyfer ‘darnau chwarae’ rhyngweithiol. \nRoedd gweithiau celf ceirt gwthio ymarferol a gynlluniwyd gan Gareth Griffith wedi eu cynnwys hefyd. Cafodd y ceirt eu creu gan blant a staff o brosiectau gwaith chwarae Wrecsam. Yn ogystal\, cafodd ‘The Voice of Children’\, ffilm gan gydweithredfa Assemble a enillodd Wobr Turner ei arddangos yn yr oriel. \n22 17 13 25
URL:https://www.typawb.wales/event/exhibition-play-work/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/10/13.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20180727
DTEND;VALUE=DATE:20180924
DTSTAMP:20260824T193018Z
CREATED:20260824T192903Z
LAST-MODIFIED:20260824T193018Z
UID:10003380-1532649600-1537747199@www.typawb.wales
SUMMARY:Ar Bapur
DESCRIPTION:Arddangosfa deithiol o Gasgliad Cyngor y Celfyddydau yn cynnwys gwaith ar bapur\, allan o bapur neu’n trafod papur gan Roy Lichetenstein\, Cornelia Parker\, Ceri Richards\, Bridget Riley a sawl un arall.  \nRoedd Ar Bapur yn dangos gwaith artistiaid cyfoes ac artistiaid o’r 20fed ganrif sydd yn gweithio gyda phapur. Roedd yr arddangosfa yn edrych y tu hwnt i greu marciau darluniau ac yn ystyried y deunydd ei hun\, gan archwilio sut mae artistiaid wedi defnyddio papur fel ffocws i’w gwaith mewn ffyrdd creadigol ac anarferol.  \nMae’r artistiaid yn Ar Bapur yn defnyddio’r papur ei hun fel cyfrwng i’w gwaith ond hefyd yn destun i’w celf: mae’n destun ac yn wrthrych\, yn ffordd o gynhyrchu ac yn arteffact a gynhyrchir. Drwy ddangos amrediad o ddulliau gludwaith\, darlunio a cherflunio\, roedd Ar Bapur yn arddangos gwaith dros 40 o artistiaid gan gynnwys yr artistiaid o Gymru\, Tim Davies\, Ceri Richards a James Richards\, ymysg nifer o rai eraill.  \nY rhestr lawn o’r artistiaid a gynhwyswyd yn ‘Ar Bapur’: Roger Ackling; Art & Language; Gillian Ayres; Anna Barriball; Karla Black; Derek Boshier; Ian Breakwell; Tony Carter; Prunella Clough; Jason Coburn; Tim Davies; Kate Davis; Francis Davison; Lesley Foxcroft; General Idea; Brian Griffiths; John Hilliard; Damien Hirst; Gary Hume; Gwyther Irwin; Gareth Jones; Ilya Kabakov; Tania Kovats; Jim Lambie; Langlands & Bell; Roy Lichtenstein; Linder; Richard Long; Kenneth Martin; Margaret Mellis; Henry Mundy; Paul Noble; Eduardo Paolozzi; Cornelia Parker; Roland Penrose; Simon Periton; Ceri Richards; James Richards; Bridget Riley; Jack Smith; Richard Smith; Sarah Staton; John Stezaker; Tony Swain; Harry Thubron a Wolfgang Tillmans ac Eleanor Wood.  \nRoedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys nifer fechan o eitemau ar fenthyg o Gasgliad y British Council.  \nMae Casgliad Cyngor y Celfyddydau yn gasgliad benthyciad cenedlaethol o gelf o Brydain o 1946 hyd heddiw\, gyda dros 8\,000 o waith a mwy na 1\,000 o fenthyciadau wedi eu gwneud i dros 100 o leoliadau bob blwyddyn.  Caiff Casgliad Cyngor y Celfyddydau ei reoli gan Ganolfan y Southbank\, Llundain ar ran Cyngor y Celfyddydau Lloegr.  \n 
URL:https://www.typawb.wales/event/ar-bapur/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20180628
DTEND;VALUE=DATE:20180716
DTSTAMP:20260824T191027Z
CREATED:20260824T191027Z
LAST-MODIFIED:20260824T191027Z
UID:10003378-1530144000-1531699199@www.typawb.wales
SUMMARY:Tueddiadau Eginol 2018
DESCRIPTION:Bibi Agu\, Kurtis Beecroft\, Mike Burrows\, Amy Cadwallader\, Alex Cuerden\, Joseph Coyle\, Susana Frontela\, Gwenllian Griffith\, Drilon Islami\, Aveline Kyffin\, Eleanor McCusker\, Ceridwen Mab Goch\, Alexandra Macupova\, Megan Morris\, Jasmine Pierce Dawson\, Lucy Smith\, Sarah Spencer\, Angharad Taris a Michelle Wright. \nRoedd Tueddiadau Eginol yn dathlu cyfoeth o dalentau artistig oedd yn deillio o Ysgolion Celf ar hyd a lled yr ardal leol. Gan fanteisio ar safle daearyddol Tŷ Pawb mewn tref ar y ffin\, gwahoddwyd myfyrwyr celf oedd yn graddio o ysgolion yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.  \nRoedd ystod ac amrywiaeth y gwaith a gynhwyswyd yn yr arddangosfa hon yn adlewyrchiad o safle Wrecsam ger ardaloedd hardd o gefn gwlad a bwrlwm dinesig cyffrous. \nY sefydliadau partner ar gyfer yr arddangosfa hon oedd Prifysgol Aberystwyth\, Prifysgol Caer\, Prifysgol Lerpwl yr Hôb\, Prifysgol Lerpwl John Moores\, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Wrecsam Glyndŵr. Cynrychiolwyd pob ysgol oedd yn cyfranogi gan dri o’u graddedigion amlycaf yn 2018.
URL:https://www.typawb.wales/event/tueddiadau-eginol-2018/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/10/IMG_2187-1.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20180424
DTEND;VALUE=DATE:20180625
DTSTAMP:20260824T185841Z
CREATED:20260824T185841Z
LAST-MODIFIED:20260824T185841Z
UID:10003376-1524528000-1529884799@www.typawb.wales
SUMMARY:Wrecsam yw’r Enw
DESCRIPTION:Ym mis Tachwedd 2017 dewiswyd chwe artist gan Tŷ Pawb i ddatblygu swfenîr a ysbrydolwyd gan stori benodol am Wrecsam. Arweiniodd y prosiect at gasgliad amrywiol o arteffactau\, o gyhoeddiadau argraffedig i sgarffiau pêl-droed\, a chant eu harddangos yn Tŷ Pawb.  \nDewiswyd y chwe stori a ysbrydolodd y swfeniriau gan y cyhoedd yr haf diwethaf o restr hir o 25\, ac fe’u datblygwyd gan yr artistiaid Sophia Leadill\, John Merrill\, Marcus Orlandi\, Nicholas Pankhurst\, Martha Todd a Bedwyr Williams.
URL:https://www.typawb.wales/event/wrexham-is-the-name/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/10/IMG_2220.jpg
END:VEVENT
BEGIN:VEVENT
DTSTART;VALUE=DATE:20180402
DTEND;VALUE=DATE:20180625
DTSTAMP:20260824T184337Z
CREATED:20260824T184337Z
LAST-MODIFIED:20260824T184337Z
UID:10003374-1522627200-1529884799@www.typawb.wales
SUMMARY:Ai'r Ddaear yw Hon?
DESCRIPTION:Yn Ai’r Ddaear yw Hon? daeth ymwelwyr ar draws creaduriaid rhyfeddol a thirweddau hardd – a bydd pob lliw a theimlad yn ddwys ac yn rhyfedd iawn.  \nYn hardd i’w dal ac yn aml yn ffug-wyddonol o ran teimlad\, roedd gan yr arddangosfa hon hefyd elfennau tywyllach yn ymwneud â’n dinistriad o natur. Roedd cerfluniau gan Salvatore Arancio\, Halina Dominska ac Alfie Strong\, paentiadau gan Dan Hays a Katherine Reekie\, celf-sain gan Jason Singh\, perfformiad byw gan Patrick Coyle a fideos gan Helen Sear a Seán Vicary. \nComisiynwyd yr arddangosfa hon gan Tŷ Pawb ac ar ôl hynny\, aeth ar daith i Ganolfan y Celfyddydau\, Aberystwyth ac Oriel Gelf Ferens\, Hull.
URL:https://www.typawb.wales/event/air-ddaear-yw-hon/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Arddangosfeydd
ATTACH;FMTTYPE=image/jpeg:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2025/02/IMG_1640_preview.jpg
END:VEVENT
END:VCALENDAR