BEGIN:VCALENDAR
VERSION:2.0
PRODID:-//Tŷ Pawb - ECPv6.15.20//NONSGML v1.0//EN
CALSCALE:GREGORIAN
METHOD:PUBLISH
X-ORIGINAL-URL:https://www.typawb.wales/?lang=cy
X-WR-CALDESC:Events for Tŷ Pawb
REFRESH-INTERVAL;VALUE=DURATION:PT1H
X-Robots-Tag:noindex
X-PUBLISHED-TTL:PT1H
BEGIN:VTIMEZONE
TZID:Europe/London
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20250330T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20251026T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20260329T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20261025T010000
END:STANDARD
BEGIN:DAYLIGHT
TZOFFSETFROM:+0000
TZOFFSETTO:+0100
TZNAME:BST
DTSTART:20270328T010000
END:DAYLIGHT
BEGIN:STANDARD
TZOFFSETFROM:+0100
TZOFFSETTO:+0000
TZNAME:GMT
DTSTART:20271031T010000
END:STANDARD
END:VTIMEZONE
BEGIN:VEVENT
DTSTART;TZID=Europe/London:20260115T110000
DTEND;TZID=Europe/London:20260115T160000
DTSTAMP:20260420T094503
CREATED:20260105T111318Z
LAST-MODIFIED:20260105T111318Z
UID:10002339-1768474800-1768492800@www.typawb.wales
SUMMARY:Ar Y Gorwel - Diwrnod Rhyngwladol Cydweithio Creadigol ar gyfer Gweithwyr a Sefydliadau Celfyddydau a Diwylliant
DESCRIPTION:Dewch i ymuno â Dirty Protest\, Tŷ Pawb\, ac artistiaid o Wrecsam a ledled Cymru am ddiwrnod yn archwilio cyfleoedd cydweithio creadigol rhyngwladol a gweithio mewn partneriaeth rhwng Cymru a’r byd. \nYdych chi’n artist\, cerddor\, perfformiwr\, neu rywun sy’n gweithio ym maes celf a diwylliant sydd eisiau adeiladu gyrfa gynaliadwy a helpu eraill i ffynnu? Ydych chi’n sefydliad sy’n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer adfywio\, cydlyniant cymunedol\, a thwf economaidd? Gallai cydweithio rhyngwladol fod yn ateb i chi! \nDysgwch gan artistiaid a rhaglennwyr sy’n gweithio’n rhyngwladol am yr heriau a’r llawenydd o greu gwaith rhwng Cymru a gwledydd eraill. Clywch am y cyfleoedd rhyngwladol i artistiaid yn Wrecsam a Chymru yn 2026 a thu hwnt gan amrywiaeth o artistiaid a sefydliadau sy’n mynd â Chymru i’r byd. \nBydd trafodaethau panel yn amlinellu sut y gallwch chi adeiladu cysylltiadau â phartneriaid mewn gwledydd eraill\, dod o hyd i gyllid i fynd â’ch gwaith dramor\, a sut y gallwch chi ddod o hyd i farchnadoedd newydd i adeiladu gyrfa gynaliadwy. Bydd grwpiau gwaith yn rhannu syniadau ar gyfer yr hyn y gall Wrecsam a Chymru ei gynnig i’r byd\, a sut y gallwn ddefnyddio cyfleoedd fel Wrecsam2029 Dinas Diwylliant i gefnogi ac ategu cydweithio yn y dyfodol. \nMae’r dirwedd teithio rhyngwladol wedi newid\, yn enwedig gydag effeithiau Brexit a phandemig byd-eang Covid19\, ond mae cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio wedi codi i Gymru ddangos ein gwaith artistig a diwylliannol unigryw i’r byd. Dewch draw i ddarganfod sut allwch chi fod yn rhan ohono. \nRhan o Gampfa Artistiaid Dirty Protest. Ers dros 10 mlynedd\, mae Dirty Protest wedi cyflwyno prosiectau cydweithredol rhwng Cymru a gwledydd ar draws sawl cyfandir gan gynnwys Iwerddon\, Portiwgal\, Denmarc\, Ffrainc\, Gwlad Pwyl\, Brasil\, Periw\, UDA\, Canada\, Kazakhstan\, Tajikistan\, Awstralia\, Japan\, Pacistan\, ac mae’r cwmni wedi teithio eu theatr a wnaed yng Nghymru ledled y byd. Cyhoeddir siaradwyr gwadd a phanelwyr. \nCofrestrwch eich diddordeb ac unrhyw ofynion mynediad dros ebost info@dirtyprotesttheatre.co.uk \nCefnogir gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru\, Cyngor Celfyddydau Cymru\, y Loteri Genedlaethol\, a Llywodraeth Cymru.
URL:https://www.typawb.wales/event/ar-y-gorwel-diwrnod-rhyngwladol-cydweithio-creadigol-ar-gyfer-gweithwyr-a-sefydliadau-celfyddydau-a-diwylliant/?lang=cy
LOCATION:Tŷ Pawb\, Stryd y Farchnad\, Wrecsam\, LL13 8BB
CATEGORIES:Digwyddiadau
ATTACH;FMTTYPE=image/png:https://www.typawb.wales/wp-content/uploads/2026/01/21.CCC-project-Xingu-Welsh-young-people.png
END:VEVENT
END:VCALENDAR