Skip to main content Scroll Top
Tŷ Pawb, Market Street, Wrexham LL13 8BY

Wrecsam! Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gan CULT Cymru

Loading Events

« All Events

Wrecsam! Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl gan CULT Cymru

January 26 @ 09:00 - 17:00
Event Series (See All)
AM DDIM

 

Bydd un person mewn pedwar yn profi rhyw fath o anhwylder iechyd meddwl bob blwyddyn. Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (Cymru) yn gallu helpu gwella ansawdd bywydau.

Nod:

Nod y cwrs dau ddiwrnod yma yw i wella dealltwriaeth iechyd meddwl ac i helpu unigolion o fewn y diwydiannau creadigol i adnabod arwyddion a symptomau rhywun gyda anhwylderau iechyd meddwl. Byddwn yn darparu deunydd ymarferol. Noder nid yw cynnwys y cwrs wedi ei deilwra ar gyfer y diwydiant, ond byddwch yn mynychu gyda pobl eraill yn y diwydiant a bydd yna gyfle i trafod mewn grwpiau bach.

Amcanion:

Nid yw’r cwrs yma yn eich hyfforddi i fod yn therapydd, cwnselydd neu berson proffesiynol iechyd meddwl ond bydd yn cynyddu eich hyder wrth weithio gydag oedolion sy’n agored i niwed.

Erbyn diwedd y sesiwn dylech allu:

  • darparu cymorth cychwynnol i rywun sy’n wynebu problemau iechyd meddwl
  • ymdrin â sefyllfa o argyfwng neu’r arwyddion cyntaf bod rhywun yn datblygu salwch meddwl
  • cyfeirio pobl at gymorth priodol.

Tystysgrif:

Bydd mynychwyr sy’n cwblhau’r ddau ddiwrnod llawn yn derbyn tystysgrif presenoldeb gan Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru.

Nodwch os gwelwch yn dda fod y cwrs hwn yn ymdrin â phynciau sensitif a all beri gofid i rai pobl. Rhowch wybod i ni’n gyfrinachol os oes unrhyw bynciau sy’n debygol o fod yn anodd neu’n peri pryder i chi drwy e-bostio wyn.williams@bectu.org.uk yn y man cyntaf.

Bydd cinio yn cael ei ddarparu ar y ddau ddiwrnod. Os ydych am gymorth ariannol i deithio i’r cwrs, cysylltwch os gwelwch yn dda. wyn@bectu.org.uk

TRAINER –  BETHAN ROBERTS

Mae Bethan wedi bod yn hyfforddwr cymorth cyntaf iechyd meddwl ers 2008, ac mae hi ‘n darparu cyrsiau i amrywiaeth o sefydliadau yn rheolaidd. Mae’n diwtor ar iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi darparu hyfforddiant ar iechyd meddwl ar gyfer gwahanol adrannau o’r gwasanaeth sifil ym Mhrydain. Mae Bethan hefyd yn dysgu ymwybyddiaeth ofalgar ac yn hyfforddwr ac athrawes ar gyfer canolfan ymchwil ac ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar Prifysgol Bangor.

CULT CYMRU

Mae CULT Cymru yn rhaglen sgiliau a gefnogir trwy Cronfa Ddysgu Undeb Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae gweithdai CULT Cymru yn cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar ac anfygythiol ble bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chodi materion yn ystod y dydd.

Venue