Scroll Top
Tŷ Pawb, Market Street, Wrexham LL13 8BY

Galw Heibio Cymunedol: Gweithdy Mosaig Papur gyda’r Artist Erin Hughes

Time:
-
Calendar:

Mwynhewch awyrgylch hamddenol y gweithdy collage cydweithredol hwn gan ddefnyddio papurau marmor dan arweiniad yr artist Erin Hughes o ganolbarth Cymru. Nid oes angen profiad.

Astudiodd Erin yn Ysgol Gelf Ruskin ym Mhrifysgol Rhydychen, a derbyniodd radd MA o’r Coleg Celf Brenhinol. Mae hi wedi arddangos yn helaeth yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal ag yn Berlin, Tokyo ac Athen. Mae ganddi gydweithrediad parhaus â’r Will Barnes Quartet, gan gyfrannu delweddau marmor hylif byw i gyd-fynd â’u perfformiadau cerddorol.

Sesiwn galw heibio – nid oes angen archebu!
Croeso i bawb!