Cafodd disgyblion o bob ysgol weithdai barddoniaeth hwyliog, rhyngweithiol, llafar gyda’r bardd perfformio Martin yn canolbwyntio ar y thema ‘Fy Wrecsam’ yn edrych ar hunaniaeth leol a’r hyn y mae’n ei olygu i fyw yma. Roedd y prosiect yn cynnwys disgyblion o grwpiau sy’n aml ar y cyrion ac yn agored i niwed wrth fynegi eu meddyliau a’u teimladau am fyw yn Wrecsam.