Mae Tŷ Pawb yn ganolfan ddiwylliannol sydd wedi ennill nifer o wobrau, ac sydd wedi’i lleoli yn yr hen ‘People’s Market’ yn Wrecsam. Rydym yn ofod ar gyfer cyfarfod, creu, chwarae, dysgu a masnachu. Gyda’n cymunedau, rydym yn rhannu orielau, stondinau marchnad, theatr, siopau, ardal fwyta, gardd ar y to ac ardaloedd cyhoeddus hyblyg.
Mae rhaglenni creadigol Tŷ Pawb yn rhoi bywyd i’w leoliad unigryw ac yn mynd i’r afael â materion brys byd-eang. Rydym yn gweithio gydag artistiaid a phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gynllunio, comisiynu a chyflwyno arddangosfeydd, prosiectau, perfformiadau a rhaglenni. Mae’r rhain yn galluogi ein cymunedau a’n hymwelwyr i fod yn ddefnyddwyr gweithredol o Dŷ Pawb.
Mae Tŷ Pawb yn lle lle mae croeso i bobl o bob oed, gallu a chefndir brofi, archwilio, mynegi a chyd-greu diwylliant ystyrlon a chynaliadwy.
Mae Tŷ Pawb yn rhan o Gyngor Wrecsam ac yn falch o gydweithio ag amrywiaeth o adrannau er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf posibl i’n cymunedau. Mae ein gwaith yn cael ei gefnogi gan ddeddfwriaeth flaenllaw Cymru sy’n arwain y byd: y Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Ers agor yn 2018, mae Tŷ Pawb wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel enghraifft ragorol o sut y gellir plethu celf a bywyd â’i gilydd.
Cynlluniwyd yr ailddatblygiad gan Sarah Featherstone o Featherstone Young.
Mae cyfleusterau Tŷ Pawb yn cynnwys dwy oriel, theatr/gofod perfformio, sawl ystafell gyfarfod, bar a chwrt bwyd a neuadd farchnad sy’n gartref i bron i 30 o fusnesau annibynnol lleol.

Mae Tŷ Pawb yn Atyniad Ymwelwyr â Sicrwydd Ansawdd Croeso Cymru

Ôl-ffitio Gorau y Flwyddyn a Adeilad Diwylliannol Gorau dan £5m (2019)

Enillydd y Fedal Aur am Bensaernïaeth 2019
Sylw o'r Wasg
Huw Stephens ar Tŷ Pawb | Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2022
(Crëwyd proffil Tŷ Pawb ar gyfer Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf)
Tŷ Pawb review – an art gallery that truly is everybody’s house
(Erthygl gan Rowan Williams yn The Guardian, 2018)
Something for everybody: Tŷ Pawb art gallery by Featherstone Young
(Proffil Tŷ Pawb o Architects ‘Journal, 2018)
Cyfrannwch i Tŷ Pawb
Cefnogwch ganolfan Ty Pawb gydag anrheg.
all rhoddion o unrhyw faint wneud gwahaniaeth mawr. Fe fydd eich anrheg hael yn helpu i gefnogi’r gwaith o redeg canolfan Ty Pawb o ddydd i ddydd, gan sicrhau y gallwn ni barhau i ddarparu ein rhaglen proffil uchel o arddangosfeydd hygyrch, digwyddiadau cymunedol diwylliannol, prosiectau sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol a pherfformiadau byw.

