
Clwb Celf i Bobl Ifanc: Taith Gerdded a Gweithdy Ffotograffiaeth gydag Oliver Stephen

Clwb Celf i Bobl Ifanc: Taith Gerdded a Gweithdy Ffotograffiaeth gydag Oliver Stephen
Dydd Llun 27 Hydref, 1pm i 4pm.
Yn y gweithdy ymarferol hwn gyda’r ffotograffydd dogfennol Oliver Stephen, bydd y cyfranogwyr yn archwilio canol y ddinas i chwilio am dri llun sy’n adrodd stori am Wrecsam. Dysgwch sgiliau cyfansoddi i’ch helpu i dynnu lluniau cymhellol a sgiliau curadu i’ch helpu i ddewis y rhai mwyaf effeithiol yn eich corff chi o waith.
Bydd ffotograffwyr ifanc sy’n cymeryd rhan yn gadael y gweithdy gyda thriptig o 3 llun printiedig sy’n arddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu.
Mae Oliver Stephen yn ffotograffydd stryd sefydledig gyda chefndir mewn celfyddyd gain a dylunio graffig, yn adnabyddus am luniau trawiadol o bobl a lleoedd lleol ac wedi ymddangos ar Welcome to Wrexham.
Mae croeso i chi ddod â’ch camera, ffôn, tabled neu liniadur eich hun i’r sesiwn hon; ond bydd offer yn cael ei ddarparu os nad oes gennych eich un eich hun.
Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed. £7.50 y person ifanc. Mae lleoedd bwrsariaeth ar gael i deuluoedd sy’n wynebu caledi ariannol, cysylltwch â teampawb@wrexham.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Llun // Photo – Rahul Pandit: https://www.pexels.com/photo/black-canon-zoom-lens-2078146/