
ANI GLASS yn Fyw Tŷ Pawb

ANI GLASS TAITH PHANTASMAGORIA yn Fyw + Cymorth gan CHWAER FAWR – Tŷ Pawb, Wrecsam
Nos Wener, 24 Tachwedd
Tocynnau: £8 | £10
Drysau: 7pm
“Cerddoriaeth ar gyfer diwedd y byd, a dechrau un newydd” (Pitchfork)
Mi fydd Ani Glass, yr artist arobryn o Gaerdydd, yn lansio ei halbwm newydd ‘Phantasmagoria’ ar y 26ain o Fedi. Ac am siwrne i gyrraedd y pwynt yma. Roedd albwm gyntaf Ani ‘Mirores’ (ei henw barddol yng ngorsedd Cernyw) yn seiliedig ar symudiad a chynnydd. Dyma oedd ei hymgais gyntaf yn recordio a chynhyrchu ac nid yw Ani Glass wedi rhoi’r gorau i symud ers hynny.
Ysbrydolwyd wrth weithio gyda’r cynhyrchydd Martin Rushent fel aelod o’r grŵp The Pipettes, a hynny ar ôl ei chyfnod fel aelod o’r band pop, Genie Queen (a reolwyd gan Andy McCluskey o’r grŵp OMD). Mae artistiaid a chynhyrchwyr y 1980au Giorgio Moroder, Vangelis, Jean-Michel Jarre ac Arthur Russell (a’i hysbrydolodd i ddysgu’r sielo) hefyd yn ddylanwadol iawn ar waith Ani.
Yn fuan ar ôl rhyddhau ‘Mirores’ yn 2020 cafodd Ani ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd anfalaen prin. Roedd y diagnosis yn ddechrau ar daith bersonol i Ani sydd wedi siapio ei halbwm newydd, albwm cysyniadol mewnsyllgar sy’n plymio’n ddwfn i’w phrofiad o ffeindio ei ffordd trwy fywyd gyda’r diagnosis.
Mae’r albwm yn un amlieithog ac yn cynnwys geiriau yn y Gymraeg, yn y Gernyweg ac mewn Saesneg. Mae Ani hefyd yn plethu ychydig o BSL (iaith arwyddo) i’w pherfformiadau byw. Clywir adlais o waith cynnar y band Goldfrapp, ynghyd ag awgrymiadau o lais cerddoriaeth Enya.
Gyda Cymorth gan CHWAER FAWR
Chwaer Fawr yw prosiect unigol Mari Morgan. Wedi cyfnodau gyda Rogue Jones, Bitw a Saron, cafodd ei halbwm unigol cyntaf, ‘Diwedd’, ei recordio’n araf bach gartref, ar ôl blynyddoedd o chwarae ym mandiau pobl eraill. Y tro hwn, cawn gyfle i glywed ei llais hi. Gyda llond llaw o hen ffrindiau’n ymuno â hi ar lwyfan i’w chwarae’n fyw, nid yw’r caneuon yn ceisio cysylltu’r dotiau ar eich rhan chi; mae nhw’n gadael i bethau eistedd, yn gadael lle, yn gadael i’r broses ddangos. Ac er mai ‘Diwedd’ yw teitl yr albwm, megis dechrau mae Chwaer Fawr.