Skip to main content Scroll Top

Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam

Chwefror 12 @ 11:30 - 13:30

Mae Wrecsam yn cynnal Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam arbennig ddydd Iau 12 Chwefror 2026, rhwng 11.30am a 1.30pm yn Nhŷ Pawb.

Mae’r digwyddiad yn seiliedig ar un syniad syml: rydyn ni i gyd eisiau heneiddio’n dda. Mae cadw’n iach, yn gysylltiedig ac yn rhan o’n cymuned yn bwysig i bawb – ni waeth ble rydyn ni arni mewn bywyd.

“Bydd llawer o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol ar gael, felly dewch draw i ymuno â ni ar y diwrnod os gallwch chi – croeso i bawb!”

Bydd mwy na 40 o sefydliadau hefyd yno i rannu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth gydag oedolion a’u teuluoedd.

Ymhlith y sefydliadau fydd yn bresennol ar y dydd mae; Tîm Seiberdroseddu Heddlu Gogledd Cymru, AVOW, Rainbow Foundation, Atal cwympiadau ac iechyd esgyrn, DASU, BAWSO, Cymorth i Ddioddefwyr, Cyngor ar Bopeth a llawer mwy

Yn y digwyddiad, fedrwch:

  • Gwrdd â grwpiau lleol
  • Dysgu am gymorth yn Wrecsam
  • Mwynhau sgwrs hamddenol gydag eraill

Mae croeso i bawb, ac mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. Does dim angen cadw lle – dim ond galw heibio.

Heneiddio’n dda yn Wrecsam | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn – Newyddion Cyngor Wrecsam

Manylion

Lle