Skip to main content Scroll Top

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen @ Tŷ Pawb: Côr cantorion James Lambert

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen @ Tŷ Pawb: Côr cantorion James Lambert

Mehefin 27 @ 12:00 - 12:30

Mae  Tŷ Pawb, ac Eisteddfod Llangollen, yn ymuno i ddod â chyfres o gyngherddau arbennig am ddim i Wrecsam.

Bydd y cyngherddau’n cynnwys detholiad o berfformwyr o restr berfformwyr eisteddfod Llangollen eleni, a byddant yn cynnwys corau lleol, grŵp dawns salsa, cerddorfa iwcalele a band padell ddur.

Gweler y rhaglen lawn isod.

Mae Cantorion James Lambert, sydd wedi’u lleoli yn Wrecsam, yn gôr o leisiau cymysg sydd wedi bod yn canu gyda’i gilydd ers dros 50 mlynedd.

Dan arweiniad eu cyfarwyddwr cerdd Clare Stephens, maen nhw’n canu cerddoriaeth boblogaidd ysgafn yn Saesneg a Chymraeg, gan gynnwys cerddoriaeth werin, gospel, a gwlad, caneuon o’r sioeau, hen ffefrynnau o gyfnod y rhyfel, ac wrth gwrs carolau Nadolig. Maen nhw’n perfformio’n lleol yn aml ac wedi teithio ar deithiau tramor i’r Almaen, y Swistir, Tenerife, Malta, Cyprus, Iwerddon, a’r UDA. Maen nhw wedi recordio sawl albwm ac yn ymarfer unwaith yr wythnos ym Mrymbo. Maen nhw ar gael ar gyfer cyngherddau, archebion preifat, digwyddiadau elusennol, ac achlysuron cymdeithasol. Maen nhw wedi canu’n aml yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac eleni byddan nhw ar Lwyfan y Globe ddydd Sadwrn 11eg Gorffennaf, am hanner dydd.

Rhaglen lawn Eisteddfod Llangollen @ Tŷ Pawb:

Dydd Sadwrn 27 Mehefin
12.30pm

Côr Cantorion James Lambert
Bydd y perfformiad hwn yn rhan o Ddiwrnod Hwyl i’r Teulu AM DDIM Tŷ Pawb

Dydd Llun 29 Mehefin
12.00pm

Grŵp Ukelele Ozukes U3A

Dydd Iau 2 Gorffennaf
12.00pm

Pans Dur Clywedog

Dydd Gwener 3 Gorffennaf
4pm

Telynau Cambrian Gweithdy rhoi cynnig ar y delyn *

Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf
12.00pm

Lleisiynau Clywedog

Dydd Mercher 8 Gorffennaf
12.00pm

Dosbarthiadau Dawns Karen – Gweithdy Salsa *

Manylion

  • Dyddiad: Mehefin 27
  • Amser:
    12:00 - 12:30
  • Digwyddiad Categori:

Lle