Sesiynau Atgyweirio l Benthyca & Thrwsio

Oes gennych chi rywbeth sydd wedi torri? Dewch ag e draw ac ymuno â thrwswyr eraill i roi bywyd newydd iddo. Boed yn declynnau, dillad neu ddodrefn, dyma’ch cyfle i ddysgu, rhannu a thrwsio mewn awyrgylch hwyliog a chyfeillgar. Does dim angen sgiliau technegol – dim ond agwedd bositif! Dewch draw i gymdeithasu, sgwrsio a helpu i wneud gwastraff yn beth o’r gorffennol.
Welwn ni chi yno ar gyfer ychydig o hud trwsio ymarferol! I gofrestru eich eitem, anfonwch e-bost atom yn info@lendandmend.org.uk, galwch heibio cyn y sesiwn yn ystod ein horiau agor, neu llenwch dudalen gyntaf y ffurflen ar wefan Repair Cafe Wales: https://repaircafewales.org/what-are-you-having-repaired-today/
Dewiswch y lleoliad olaf yn y ddewislen gwympo (‘Wrexham, Ty Pawb (Lend and Mend)’) a llenwch gymaint o wybodaeth â phosibl am y broblem gyda’ch eitem. Ar waelod y dudalen honno, dewiswch ‘Save for Later‘ (I’w gadw ar gyfer yn ddiweddarach) a nodwch y cyfeiriad e-bost info@lendandmend.org.uk i anfon yr hyn rydych chi wedi’i lenwi hyd yn hyn atom ni! Byddwn ni’n cwblhau gweddill y ffurflen yn y sesiwn.
Os oes gennych chi sgiliau rydych chi am eu rhannu, cysylltwch â ni ynglŷn â gwirfoddoli. Byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un sydd â sgiliau mewn gwnïo, electroneg, beiciau, gwaith coed, cyfrifiaduron, trwsio gemwaith… neu bron unrhyw beth arall!
Sylwch: Mae sesiynau trwsio a’r mathau o drwsio yn dibynnu ar argaeledd gwirfoddolwyr. Cysylltwch â ni cyn y sesiwn i gadarnhau y bydd gennym y sgiliau angenrheidiol i helpu.




