Skip to main content Scroll Top

Tueddiadau Eginol 2018

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.

Tueddiadau Eginol 2018

Mehefin 28, 2018 - Gorffenaf 15, 2018

Bibi Agu, Kurtis Beecroft, Mike Burrows, Amy Cadwallader, Alex Cuerden, Joseph Coyle, Susana Frontela, Gwenllian Griffith, Drilon Islami, Aveline Kyffin, Eleanor McCusker, Ceridwen Mab Goch, Alexandra Macupova, Megan Morris, Jasmine Pierce Dawson, Lucy Smith, Sarah Spencer, Angharad Taris a Michelle Wright.

Roedd Tueddiadau Eginol yn dathlu cyfoeth o dalentau artistig oedd yn deillio o Ysgolion Celf ar hyd a lled yr ardal leol. Gan fanteisio ar safle daearyddol Tŷ Pawb mewn tref ar y ffin, gwahoddwyd myfyrwyr celf oedd yn graddio o ysgolion yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. 

Roedd ystod ac amrywiaeth y gwaith a gynhwyswyd yn yr arddangosfa hon yn adlewyrchiad o safle Wrecsam ger ardaloedd hardd o gefn gwlad a bwrlwm dinesig cyffrous.

Y sefydliadau partner ar gyfer yr arddangosfa hon oedd Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caer, Prifysgol Lerpwl yr Hôb, Prifysgol Lerpwl John Moores, Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Wrecsam Glyndŵr. Cynrychiolwyd pob ysgol oedd yn cyfranogi gan dri o’u graddedigion amlycaf yn 2018.

Manylion

  • Dechrau: Mehefin 28, 2018
  • Diwedd: Gorffenaf 15, 2018
  • Digwyddiad Categori:

Lle