Hanner Tymor: Argraffu â Llysiau a Gweithgareddau Lles i’r Teulu – AM DDIM
Hydref 28 @ 10:00 - 14:00
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn argraffu gyda llysiau – galwch heibio unrhyw bryd! Bydd yr artist lleol Rhi Moxon yno i’ch arwain.
Byddwn yn creu gwaith celf gan ddefnyddio naw cynhwysyn ‘Stwmp Naw Rhyw’ – pryd traddodiadol Cymreig sy’n cynnwys llysiau wedi’u stwnsho, ac sy’n cael ei fwyta ar Nos Galan Gaeaf i nodi dechrau’r gaeaf.
Yn ogystal, bydd Groundwork North Wales yn cynnig sesiynau lles i deuluoedd, yn hollol AM DDIM! Bydd gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan archwilio syniadau syml am les gyda’i gilydd.
Yn rhan o Brosiect y Ganolfan Amlddiwylliannol (Multicultural Hub Project)

