- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
Ai’r Ddaear yw Hon?
Ebrill 2, 2018 - Mehefin 24, 2018

Yn Ai’r Ddaear yw Hon? daeth ymwelwyr ar draws creaduriaid rhyfeddol a thirweddau hardd – a bydd pob lliw a theimlad yn ddwys ac yn rhyfedd iawn.
Yn hardd i’w dal ac yn aml yn ffug-wyddonol o ran teimlad, roedd gan yr arddangosfa hon hefyd elfennau tywyllach yn ymwneud â’n dinistriad o natur. Roedd cerfluniau gan Salvatore Arancio, Halina Dominska ac Alfie Strong, paentiadau gan Dan Hays a Katherine Reekie, celf-sain gan Jason Singh, perfformiad byw gan Patrick Coyle a fideos gan Helen Sear a Seán Vicary.
Comisiynwyd yr arddangosfa hon gan Tŷ Pawb ac ar ôl hynny, aeth ar daith i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ac Oriel Gelf Ferens, Hull.


