Skip to main content Scroll Top

Arddangosfa Derfynol Ecological Citizens Network yn Wrecsam

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

Arddangosfa Derfynol Ecological Citizens Network yn Wrecsam

Rhagfyr 9 @ 14:00 - 19:00

Ymunwch â ni am brynhawn o greu cysylltiadau, creadigrwydd a sgwrsio, wrth i ni ddod â rhwydwaith ECN+ ynghyd â’n ffrindiau a’n partneriaid.

Bydd y rhaglen yn cynnwys stondinau gan sefydliadau EC lleol a thimau prosiect rydym wedi’u hariannu, yn ogystal ag arddangosiadau a thrafodaethau. Mae’n gyfle i fyfyrio, rhannu syniadau a dathlu’r ymchwil sydd wedi deillio o’r prosiect, ynghyd â chyfraniad pawb a fu’n rhan ohono!

Gyda’r nos, byddwn yn agor y drysau i ddathlu’r gwaith anhygoel sydd wedi deillio o ECN+. Bydd sesiynau trafod, dangosiadau dogfen, a chyfle i’n rhwydwaith ehangach, ein cydweithwyr a’n ffrindiau weld beth rydym wedi bod yn ei wneud! Ymunwch â ni am noson o sgwrsio, creu cysylltiadau newydd a dathlu!

🌱 Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal arddangosiad, trafodaeth neu weithdy byr yn y digwyddiad yn Wrecsam, cysylltwch â ni a gallwn drefnu galwad i drafod y manylion!

📍 Dydd Mercher 9fed Rhagfyr 2026, Ystafell Wrecsam, Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam, LL13 8BB

☀️ 14.00 – 17.00 YN YSTOD Y DYDD – Marchnad Rhwydwaith ECN+ Wrecsam

🌜 17.00 – 19.00 YN Y NOS – Digwyddiad Dathlu a Dangos Canlyniadau Terfynol ECN+

Lle