Skip to main content Scroll Top

Arddangosfa: Effaith: Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru (2025-26)

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

Arddangosfa: Effaith: Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru (2025-26)

Ebrill 18 - Mehefin 27

Mae Effaith yn arddangosfa sy’n dangos safbwyntiau pobl anabl ar un o faterion mwyaf brys ein hoes: yr argyfwng hinsawdd. Yn dilyn galwad agored, detholwyd artistiaid anabl, b/Byddar a niwrwahanol i ymateb i themâu natur, tirwedd a chyfiawnder hinsawdd o safbwynt anabledd.

Mae’r arddangosfa hefyd yn arddangos dau gomisiwn a grëwyd fel rhan o brosiect Effaith, un mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac un mewn partneriaeth â Chorsydd Calon Môn.

Mae’r comisiwn gydag Amgueddfa Cymru wedi’i cefnogi gan CELF, partneriaeth oriel gelf gyfoes cenedlaethol Cymru sy’n gweithio gyda’n cynulleidfaoedd drwy Gymru a thu hwnt i gynyddu mynediad at y gweithiau celf yn y casgliad. Creodd y comisiwn hwn gyfle i’r artist ymateb i thema Effaith a’r Casgliad Cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru. Kathryn Ashill wnaeth derbyn y comisiwn yma ac mae wedi creu gwaith sy’n archwilio’r corff anabl a’i berthynas â chyrff dŵr naturiol.

Mae comisiwn Corsydd Calon Môn yn tynnu sylw at unigrywiaeth a bregusrwydd corsydd Ynys Môn. Wedi’i ariannu drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae Corsydd Calon Môn yn brosiect cydweithredol sy’n ceisio sicrhau dyfodol Corsydd Ynys Môn wrth ddathlu eu diwylliant a’u treftadaeth doreithiog. Mae’r prosiect yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y corsydd i bobl, i natur, ac i ymladd yn erbyn newid hinsawdd. Dyfarnwyd y comisiwn i Catherine Taylor Parry ac mae wedi creu gwaith sy’n ymateb i toreithrwydd yr amgylchedd ac yn myfyrio ar y gors fel cofnod naturiol o amser.

O Chwefror 2026 i Fawrth 2027, bydd arddangosfa Effaith yn teithio ledled Cymru i bum oriel Cymraeg mwyaf blaenllaw: Galeri, Caernarfon; Tŷ Pawb, Wrecsam; g39 Caerdydd; Glan yr Afon, Casnewydd; a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.

Artistiaid dethol:

Adele Vye, Alison Robertson, Bev Bell Hughes, Beverly Marmont-Hill, Catherine Taylor Parry, Catrin Gwilym, Cerian Lloyd, Cheryl Beer, Dea Neile-Hopton, Durre Shahwar, Eileen Harrisson, Emma Frayne-Ford, Grant Lambie, Jane Campbell, Jamie Lawrence, Jill Powell, Kathryn Ashill, Linda and Bethany Sutton, Mars da Silva Saude, Polly Hill, Rhowan Alleyne on behalf of Ceredigion Animation Club, Rohan Powell, Sally Pearce, Tracey McMaster

Gyda diolch i artist DAC Booker T Photography, sy’n creu celf gynhwysol trwy greu printiau 3D cyffyrddol o ddelweddau 2D. Mae Booker wedi creu printiau cerfweddol cyffyrddol 3D ar gyfer pob darn o waith celf yn Arddangosfa Deithiol Genedlaethol DAC, Effaith, gan wneud y gwaith yn hygyrch trwy gyffwrdd.

Gyda diolch i ddetholwyr yr arddangosfa:
Dr. Kate Brehme, BerlinKlusion, Yr Almaen
Bethany Handley, Awdur / Bardd / Ymgyrchydd Anabledd, Cymru
Arty Jen Jo, Artist, Cymru

Manylion

  • Dechrau: Ebrill 18
  • Diwedd: Mehefin 27
  • Digwyddiad Categori:

Lle