Arddangosfa: Wedi’u Dewis yn Rhydd – Eiliadau diweddar a ddaliwyd gan Weithwyr Chwarae Wrecsam

Ar gyfer Ffoto Cymru 2026, gyda’r thema ‘Mae Mwy i Fywyd’, ni allai arddangosfa yn Wrecsam ganolbwyntio ar ddim byd arall ond gwaith chwarae a meysydd chwarae antur.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu i gefnogi hawl plant i chwarae – trwy’r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae. Mae hyn yn golygu bod chwarae eisoes yn rhywbeth arbennig yng Nghymru, ac mae’r nodwedd arbennig honno’n cael ei hamlygu ymhellach yn Wrecsam, sy’n gartref i’r unig dri maes chwarae antur yng Nghymru: The Venture, Gwenfro Valley a The Land.
Mae’r meysydd chwarae hyn yn gweithio mewn cydweithrediad â’i gilydd, ac â’r tîm lleol sy’n cefnogi chwarae a phobl ifanc, i ddarparu cyfleoedd sy’n newid bywydau. Mae’r cyfleoedd hyn yn galluogi plant i fod yn nhw eu hunain trwy chwarae, yn rhydd o’r cyfyngiadau sy’n rheoli’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd a lleoliadau yn eu bywydau bob dydd.
Y bobl sydd, efallai, yn y sefyllfa orau yn y byd i ddal eiliadau o chwarae plant trwy ffotograffiaeth yw’r gweithwyr chwarae eu hunain. Maent yn ymgolli yn yr eiliad gyda’r plant; maent yn ymwybodol o rythmau chwarae wrth iddo newid a llifo; ac mae ganddynt berthnasoedd hirdymor gyda’r plant ac wedi ennill eu hymddiriedaeth. Am y rheswm hwn, mae’r holl ddelweddau yn yr arddangosfa hon wedi’u tynnu gan weithwyr chwarae o Wrecsam, yn hytrach nag artist neu ffotograffydd sy’n ymweld â’r ardal.



