Archwilwyr Celf: Gweithdy l i’r Teulu
Ebrill 1 @ 13:00 - 15:00

Archwilwyr Celf: Gweithdy l i’r Teulu
Ymunwch â’r artist Niki Holmes yn yr oriel i archwilio gweithiau botanegol toreithiog Jonathan Le Vay yn y gweithdy lluniadu creadigol hamddenol, addas i deuluoedd hwn. Arbrofwch â gwneud marciau a lliwio trwy basteli olew a chyfryngau cymysg, a mwynhewch luniadu i gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan yr artist. Crëwch eich delweddau botanegol bywiog eich hun i’w cymryd adref.
Mae egwyl fyrbryd/cysur o 15 munud hanner ffordd drwy’r sesiwn hon.
Argymhellir archebu. Talwch yr hyn y gallwch. Yn fwyaf addas ar gyfer plant 4 i 14 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.




