Taith Oriel Gyda’r Nos gyda Jonathan Le Vay
Ebrill 3 @ 18:00 - 19:00

trosolwg
Taith Oriel Gyda’r Nos dan Arweiniad Artist: ‘Opus’ gan Jonathan Le Vay
Ymunwch â ni am noson yn yr oriel yn archwilio paentiadau botanegol toreithiog Jonathan Le Vay. Yn y daith hon dan arweiniad yr artist, byddwch yn clywed am brosesau peintio a cherddorol Jonathan, ac yn gwrando ar gyfansoddiadau cerddorol sy’n ategu’r gweithiau celf.
Cynigir lleoedd ar y daith hon ar sail rhodd talu-beth-allwch-chi. Archebwch i osgoi siom gan fod lleoedd yn gyfyngedig. Cyflwynir y daith hon drwy gyfrwng y Saesneg.




