Skip to main content Scroll Top

Exhibition: PLAY-WORK

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.

Exhibition: PLAY-WORK

Awst 10, 2018 - Hydref 27, 2018

Archwilio’r Grefft o Weithio Gyda Phlant yn Chwarae
Assemble, Morag Colquhoun, Gareth Griffith, Ludicology a Gweithwyr Chwarae Wrecsam

Roedd GWAITH-CHWARAE yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng oedolion a phlant, ac ar greu cofnod i ddathlu gwaith chwarae radical ers yr 1970au ym meysydd chwarae antur byd-enwog Wrecsam.

Craidd yr arddangosfa oedd tirlun chwarae, a gafodd ei ddylunio a’i godi mewn proses ar y cyd rhwng yr artistiaid, Ludicology, staff Tŷ Pawb a Thîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid a meysydd chwarae antur Wrecsam. O fewn y tirlun chwarae roedd gwaith comisiwn newydd gan Morag Colquhoun, a greodd decstilau yn arbennig ar gyfer ‘darnau chwarae’ rhyngweithiol.

Roedd gweithiau celf ceirt gwthio ymarferol a gynlluniwyd gan Gareth Griffith wedi eu cynnwys hefyd. Cafodd y ceirt eu creu gan blant a staff o brosiectau gwaith chwarae Wrecsam. Yn ogystal, cafodd ‘The Voice of Children’, ffilm gan gydweithredfa Assemble a enillodd Wobr Turner ei arddangos yn yr oriel.

Manylion

  • Dechrau: Awst 10, 2018
  • Diwedd: Hydref 27, 2018
  • Digwyddiad Categori:

Lle