Arddangosfa Agored Tŷ Pawb 2026


CYFLWYNWCH EICH GWEITHIAU NAWR!
Mae ein harddangosfa alwad agored dwyflynyddol yn dychwelyd ar gyfer ei pumed rhifyn. Roedd rhifyn 2026 yn cynnwys dros 100 o weithiau celf, yn dilyn ymateb record i’n galwad agored, gyda bron i 450 o artistiaid yn cyflwyno gweithiau.
Gwahoddir artistiaid i gyflwyno hyd at dri gwaith celf i’w hystyried ar gyfer eu harddangos yn ein harddangosfa agored.
Mae’r gystadleuaeth yn gyfle i bob artist proffesiynol ac amatur arddangos eu gwaith ochr yn ochr yn ein horiel arobryn, a chael cyfle i ennill un o dair gwobr eleni.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno:
4/10/26
11.59yh
Dyddiadau’r arddangosfa:
14/11/26 – 27/2/26
Gwobrau
Gwobr y Beirniaid: £1000
Gwobr y Cyhoedd: £500
Gwobr y Masnachwr: £500
Ffi ymgeisio
£18 am hyd at 3 gwaith celf
£12 ar gyfer prisiau gostyngol
Sut i ymgeisio:
1. Darllenwch y Telerau ac Amodau a gwnewch yn siŵr eich bod wedi’u deall.
2. Talwch eich ffi ymgeisio (mae angen rhif cyfeirio taliad i gwblhau’r ffurflen gyflwyno).
3. Llenwch y ffurflen gyflwyno.


