Gwilym Bowen Rhys Trio + Elin a Carys

Noson o gerddoriaeth fyw gyda dau o artistiaid blaenllaw y Gymraeg.
Gwilym Bowen Rhys
Mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel llysgennad i gân Gymraeg, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd; cadarnhawyd hyn gan ei enwebiad ar gyfer gwobr ‘Folk Singer of the Year’ yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2. Mae Gwilym wedi bod yn canu yn ei famiaith, y Gymraeg, ers cyn y gall gofio, gan feithrin cysylltiad dwfn â chaneuon a cherddoriaeth draddodiadol ei wlad.
Wrth berfformio fel triawd gyda Patrick Rimes ar y ffidil (Calan, VRi, ALAW) a Gwen Mairi ar y delyn, cyflwynir caneuon Gwilym mewn awyrgylch agos-atoch a chytbwys. Mae’r trefniadau’n gynnil ac yn ystyriol, ond hefyd yn bwerus ac yn llawn egni, gan dynnu ar draddodiad gwerin cyfoethog Cymru tra’n parhau i fod yn gyfoes.
Elin a Carys
Mae Elin a Carys yn chwiorydd a’u harmonïau agos a threfniadau o ganeuon gwerin a chaneuon gwreiddiol yn tynnu ar eu magwraeth gerddorol a thirweddau Canolbarth Cymru. Mae Elin a Carys yn plethu gitâr, piano, banjo, ffidil, acordion a chwibanau i’w perfformiadau, ac maen nhw newydd rhyddhau eu EP cyntaf o’r enw ‘Hela’r dryw’ gyda Recordiadau Sain.

Ardal Fwyd a Bar ar agor
£15
Drysau: 7.30pm
Dechrau: 8pm
Rhaid i bobl dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn




