LEFEL 2026 – Expo Gemau


Codwch eich dydd Gwener i’r lefel nesaf a dewch o hyd i’ch hoff gêm newydd yn LEFEL, sy’n dod i Tŷ Pawb, Wrecsam!
Os ydych chi’n chwarae am hwyl, wrth eich bodd â gemau cystadleuol, neu dim ond eisiau diwrnod cyffrous allan gyda theulu a ffrindiau, mae croeso cynnes i chwaraewyr o bob oed a phrofiad. Rowch gynnig ar gemau newydd sbon, profwch eich sgiliau mewn twrnameint gyda gwobrau ariannol, neu gwyliwch ddatblygwyr yn creu gemau o’r newydd yn ein cystadleuaeth GameJam.
Cewch hefyd gyfle i gwrdd â’r datblygwyr talentog lleol sy’n rhoi Cymru ar y map gemau, gydag arddangosfeydd gan stiwdios Cymreig blaenllaw gan gynnwys Wales Interactive, Copa Gaming, Cloth Cat Games, Merlin Game Studios, a llawer mwy.
Y gorau oll? Mae’r ticedi’n rhad ac am ddim.
Dewch i brofi y gorau o fyd gemau Cymru!
Bydd y digwyddiad yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen LEFEL ar Hansh (S4C) gyda’r twrnameint yn cael ei ffrydio’n fyw ar sianel YouTube Hansh




