Skip to main content Scroll Top

MARCHNAD CREFFTWYR * HEN DEULU * MARCHNAD HEN DDEUNYDDIAU

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

MARCHNAD CREFFTWYR * HEN DEULU * MARCHNAD HEN DDEUNYDDIAU

Hydref 17 @ 10:00 - 16:00

Peidiwch â cholli ein digwyddiad poblogaidd yn Tŷ Pawb, Wrecsam!

Hefo The Artisan Market a Stellar Boutique

Dewch i ymuno â ni am gyfle arall i chwilio am ddillad, ategolion, eitemau casgladwy unigryw, crefftau crefftus, ffasiwn gynaliadwy ac wedi’i greu’n bersonol, gwrthrychau a nwyddau cartref ‘kitsch’, recordiau finyl a dillad ail-law.

Chwiliwch drwy’r rheiliau a’r stondinau am berlau cudd, trysorau anghofiedig a chrefftau wedi’u gwneud â llaw; yna ymlaciwch a mwynhewch ddiod o’r bar a bwyd stryd blasus gan amrywiaeth o werthwyr bwyd poeth ar ôl i’ch bagiau siopa fod yn llawn.

Mae ‘Tŷ Pawb’ yn ofod digwyddiadau dan do ar arddull warws, yn ganolfan gymunedol ar gyfer y celfyddydau ac arloesedd, ac yn gyrchfan siopa yng nghalon Dinas Wrecsam.

Dydd Sadwrn hwyliog a bywiog i bawb – manteisiwch ar fargen a helpwch i achub y blaned, un trysor ar y tro!

Mewn cydweithrediad â ‘The Stellar Boutique’ (siop ffasiwn ‘vintage’ ac wedi’i chreu’n bersonol)

Mynediad AM DDIM
Mynediad a pharcio i bobl anabl ar y safle
Dydd Sadwrn 17 Hydref

Manylion

  • Dyddiad: Hydref 17
  • Amser:
    10:00 - 16:00
  • Digwyddiad Categori:

Lle