- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
Peintio Heb Frwsys – Gweithdy Creadigol gyda’r artist Catherine Taylor Parry

Peintio Heb Frwsys – Gweithdy Creadigol gyda’r artist Catherine Taylor Parry
Dydd Iau, 21ain Mai 2026, 13:00 – 15:00
Ymunwch â’r artist Catherine Taylor Parry ar gyfer y gweithdy creadigol rhad ac am ddim hwn fel rhan o raglen Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Effaith: Celfyddydau Anabledd Cymru (2025-26). Yn y sesiwn hon byddwch yn archwilio peintio heb frwsys, gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau cyfryngau cymysg – paent, pigment, pen a sgraffito (crafu) – i greu delweddau botanegol arbrofol wedi’u hysbrydoli gan blanhigion ffen gwlith yr haul.
Nid oes angen profiad celf blaenorol. Croeso i bob oedolyn. Argymhellir archebu i osgoi siom.
Gwybodaeth mynediad: Cyflwynir y sesiwn hon yn Saesneg. Mae’r gweithdy hwn yn y Gofod Celfyddydau Defnyddiol, wedi’i leoli ar lawr gwaelod Tŷ Pawb y tu ôl i’r ddesg dderbyn. Mae toiled hygyrch Changing Places gyda chodiwr gyferbyn â’n desg dderbyn. Mae parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn glas yn ein maes parcio aml-lawr sy’n hygyrch i lifft. Mae dolen glyw ar gael. Darperir te a choffi am ddim yn y sesiwn hon.




