Eginblanhigion: Plannu Perlysiau
Mai 26 @ 14:00 - 15:30

Eginblanhigion, Dydd Mawrth, 26/05/2026, 2pm – 3.30pm
Plannu Perlysiau!
Sesiwn garddio teuluol i blant bach hyd at bobl ifanc. Plannwch berlysiau i’w cymryd adref, neu dewch yn rhan o’n gardd ar y to. Mae gweithgaredd awyr agored yn amodol ar dywydd braf!
- Talu-beth-allwch-chi.
- Cwrdd yn y dderbynfa am 2pm i fynd i fyny i ardd y to gyda’n gilydd.
- Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
- Argymhellir archebu.




