Skip to main content Scroll Top

Slumbersaurus – Roarsome Musical Adventure

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

  • Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.

Slumbersaurus – Roarsome Musical Adventure

Mai 6 @ 15:00 - 16:00
Text in this image reads: "Slumbersarus A Musical Adventure

Slumbersaurus – Antur Rawrdderchog Cerddorol

Dewch i ymuno â Slumbersaurus ar gyfer yr antur gerddorol RAWRDDERCHOG ddiweddaraf wrth i ni fynd ar daith i ddarganfod lleoliad Rysáit Bara Brith coll Nain.

Wrth fwyta sleisen o Fara Brith blasus Nain, mae Slumbersaurus yn cael ei synnu gan sgrech anferthol gan Nain wrth iddi sylweddoli, er mawr arswyd iddi, fod ei rysáit gyfrinachol enwog ar goll. Wedi’i syfrdanu gan y newyddion ofnadwy hwn, mae Slumbersaurus yn dechrau meddwl tybed ble, ble, y gallai’r rysáit fod? Gyda anadl ddofn, mae’n cychwyn ar daith i ddod o hyd i’r rysáit goll ond, gyda llawer o rwystrau peryglus ar hyd y daith, bydd angen cefnogaeth arno. A allech chi helpu i ddod o hyd iddi? Hoffech chi antur?

Ymunwch â Slumbersaurs a NEW Sinfonia am Antur Gerddorol RAWRDDERCHOG wrth i ni gymryd drosodd Tŷ Pawb am y diwrnod. Wedi’i greu ar gyfer ein cynulleidfaoedd ieuengaf, mae ein hanturiaethau cerddorol hudolus Slumbersaurus yn gyflwyniad perffaith i gerddoriaeth glasurol. Rydym yn cyfuno cerddoriaeth fyw, adrodd straeon, chwarae dychmygus a gweithgareddau crefft i greu profiadau amlsynhwyraidd, deniadol.

Mae rhywbeth i bawb ymlaen yn Tŷ Pawb wrth i ni gymerud dros yr adeilad am y diwrnod. Profiwch berfformiad o’n Antur Gerddorol lle cewch eich annog i ymuno â’r canu a’r symud, ac os ydych chi’n hoffi crefftio gallwch chi mwynhau llu o weithgareddau crefft gan gynnwys dylunio eich Masg Deinosor eich hun.

 

Profwch yr extravaganza anhygoel hon am bris y gallwch chi ei fforddio. Gyda chefnogaeth Tŷ Cerdd, rydym yn gallu cynnig tocynnau ar sail ‘Talwch beth yr allwch chi’ gydag isafswm o £2 y tocyn. Er bod cefnogaeth Tŷ Cerdd yn helpu i wneud y gweithgaredd hwn yn bosibl, rydym yn dal i fod angen eich help i dalu cost cyflwyno’r gweithgaredd hwn. Diolch ymlaen llaw am eich haelioni. Prynwch 1 tocyn i bob oedolyn neu blentyn dros 2 oed. Mae plant dan 2 oed wedi’u cynnwys gyda thocyn oedolyn.

 

Amserlen Gweithgareddau

1.30pm-3.00pm – Gweithgareddau Crefft Deinosor i unrhyw bobl ifanc greu eu Masg Deinosor eu hunain. Nid oes angen tocyn na chofrestru, dim ond troi fyny ar y diwrnod a dechrau crefftio.

2:00pm-2:45pm – Helfa Sborion. Digwyddiad heb docynnau yw hwn.

3:00pm-4:00pm – Perfformiad Antur Gerddorol. Mae hwn yn ddigwyddiad â thocynnau. Prynwch 1 tocyn i bob oedolyn neu blentyn dros 2 oed. Mae plant dan 2 oed wedi’u cynnwys gyda thocyn oedolyn.

Tocynnauhttps://cy.newsinfonia.org.uk/event-details/slumbersaurus-roarsome-adventure-1

Manylion

Trefnydd

Lle