Skip to main content Scroll Top

Swipe Vintage – Wrexham Kilo Sale

Loading Digwyddiadau

« Pob Digwyddiadau

Swipe Vintage – Wrexham Kilo Sale

Medi 19 @ 10:30 - 16:00

Paratowch, Wrecsam! Miloedd o ddillad ‘vintage’ a brandiau adnabyddus am £20 y kilo – am un diwrnod yn unig! Dewch i chwilio drwy ddillad unigryw i ddynion a menywod!

Dewch o hyd i ddillad ‘vintage’ o safon am ddim ond £20 y kilo! Rydym yn malio am yr hyn rydym yn ei werthu, felly mae pob eitem yn cael ei harchwilio a’i didoli â llaw gan ein tîm profiadol; mae llawer ohonynt hyd yn oed yn cael eu golchi cyn cyrraedd ein digwyddiadau. Mae pob digwyddiad yn cael ei drefnu a’i baratoi ymlaen llaw er mwyn i ni allu cynnig y dillad ‘vintage’ dilys gorau a’r brandiau rydych chi’n eu caru.

Prisiau Teg a Chywir – Dim ond £20 y kilo, wedi’u cyfrifo mewn cynyddiadau o 0.05kg. Dim talu mwy trwy dalgrynnu, a dim talu am kilo llawn os nad ydych chi wedi cyrraedd y pwysau hwnnw. Mae 0.05kg yn costio £1 yn unig.

Terfynau Pris Arbennig – Mae pris eitemau trwm dethol, fel siacedi lledr neu gotiau gaeaf hir, wedi’u cyfyngu i £20 er mwyn arbed arian i chi.

Esgidiau – Dim ond £5 y pâr. Brandiau fel Converse a Vans ar gael.
Taliad – Derbynnir arian parod a chardiau, gan gynnwys taliadau digyswllt.

Byddwn yn rhoi bag tryloyw i chi, ac yna dim ond mynd ati sydd rhaid. Edrychwch drwy’r rheiliau a dewiswch unrhyw beth sy’n dal eich sylw – mae angen bod yn gyflym cyn i rywun arall ei gymryd! Tynnwch y crogwr a rhowch yr eitem yn eich bag tryloyw; yna, ar y diwedd, byddwn yn pwyso’r cyfan. Cadwch eitemau sydd ar werth (neu eitemau â phris sefydlog, fel esgidiau) ar wahân fel y gallwn gyfrifo’r pris cywir.

Mae gennym ystod eang o ddillad i ddynion, menywod ac, weithiau, plant. Mae’r holl eitemau yn rhai ail-law ac yn rhychwantu’r cyfnod o’r 1960au i’r 2000au.

Fel arfer, mae gennym ddetholiad gwych o’r categorïau canlynol:

Dillad chwaraeon, trowsusau hamdden a chrysau-t
Dillad un darn, sgertiau a blwsis
Crysau a chrysau fflanel
Trowsusau, trowsusau ‘chino’ a siorts
Jeans a siacedi denim
Dillad gwau a dillad cnu
Siacedi lledr, cotiau gaeaf, ffwr ffug a siacedi eraill
Esgidiau, bagiau ac ategolion llai

Brandiau? Wrth gwrs – dewch o hyd i Adidas, Nike, The North Face, Levis, Converse, Reebok, Puma, Vans, Champion, Fila, Ralph Lauren, Columbia, Wrangler, Tommy Hilfiger a llawer mwy.

Mae’r mynediad yn rhad ac am ddim, ond archebwch docyn ymlaen llaw fel ein bod yn gwybod faint o bobl sy’n debygol o ddod – mae hyn yn ein helpu i gynllunio, paratoi digon o ddillad ‘vintage’ a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.

ARCHEBWCH DROS EVENTBRITE

Manylion

Lle