The Hit Parade – Ultimate 60’s Show

Mae The Hit Parade yn sioe lwyfan sy’n dod â hud a lledrith y 60au i’r cyhoedd.
Gyda grŵp o gerddorion teithiol mwyaf toreithiog y DU, mae’r sioe hon yn cynnwys adran offerynnau pres i gyd-fynd â’r caneuon mwyaf poblogaidd o oes aur cerddoriaeth a diwylliant. Gall y gynulleidfa ddisgwyl noson fythgofiadwy wrth i’r band berfformio amrywiaeth o ganeuon, o Merseybeat i Northern Soul a Motown, a phopeth rhyngddynt. Gyda defnydd o wisgoedd llwyfan dilys a ffilmiau archif, gall cynulleidfaoedd ym mhobman ddisgwyl profiad hynod afaelgar. Mae perfformiadau diweddar wedi ennill clod mawr a chanmoliaeth feirniadol i’r band wrth iddynt deithio ar hyd a lled y DU. Peidiwch â cholli’r cyfle i deithio’n ôl mewn amser pan fydd The Hit Parade yn ymweld â’ch tref neu ddinas.
Yn ogystal â dod â’r parti ‘retro’ i bobl Wrecsam, mae The Hit Parade yn awyddus i gefnogi achosion da lle bynnag y gallant. Gyda hyn mewn golwg, bydd £5 o bob tocyn yn cael ei roi i Macmillan Cancer Support er cof am ffrind agos i’r band, Sam Molnar.




