- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
We Can Only See Today

Arddangosfa unigol gan Yoke, artistiaid cydweithredol Annie Nelson a Chris Woodward.
Ar gyfer eu harddangosfa unigol gyntaf yn y DU, comisiynwyd Yoke gan Tŷ Pawb i gynhyrchu corff newydd o waith yn ymateb i ymchwil a’r amser a dreuliwyd yn Wrecsam.
Wedi’u dylanwadu gan hanes marchnadoedd Wrecsam a’r rhai sydd yn Nhŷ Pawb heddiw, mae Yoke wedi tyrchu i’r straeon a’r hanesion am ei datblygiad. O’r ffeiriau teithiol hyd at y lleoliad heddiw fel man cyfarfod a masnachu.
Roedd ‘We Can Only See Today’ yn cyfuno erthyglau papur newydd, wedi eu dethol o archifau Amgueddfa Wrecsam, gyda gwaith celf newydd yn cynnwys cloch farchnad newydd i Tŷ Pawb, mewn ymgais i archwilio’r berthynas unigryw hon rhwng diwylliant a marchnad a rhannu syniadau gyda’r gynulleidfa.


