- Mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio.
Wrecsam yw’r Enw
Ebrill 24, 2018 - Mehefin 24, 2018

Ym mis Tachwedd 2017 dewiswyd chwe artist gan Tŷ Pawb i ddatblygu swfenîr a ysbrydolwyd gan stori benodol am Wrecsam. Arweiniodd y prosiect at gasgliad amrywiol o arteffactau, o gyhoeddiadau argraffedig i sgarffiau pêl-droed, a chant eu harddangos yn Tŷ Pawb.
Dewiswyd y chwe stori a ysbrydolodd y swfeniriau gan y cyhoedd yr haf diwethaf o restr hir o 25, ac fe’u datblygwyd gan yr artistiaid Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams.



