GALW AR HOLL GARIADON SYNTH, CREAWYR SWN A DEWINIAID GWELADOL
Ydych chi’n creu cerddoriaeth electronig, yn chwarae offerynnau modiwlaidd neu caledwedd, neu’n perfformio delweddau byw? Rydym eisiau i chi berfformio yn WIRED @ Tŷ Pawb.
Noson wedi’i chysegru i gerddoriaeth electronig, anhrefn modiwlaidd, delweddau byw a threfniannau sonig creadigol.
YSTAFELL 1: WIRED – Artistiaid Byw a Delweddau
YSTAFELL 2: CLWB SYNTH – Stiwdio Pop-up Rhyngweithiol Synths a Sgyrsiau
Mae ein rhaglen newydd Gwanwyn / Haf o gyngherddau clasurol a chyfoes amser cinio wedi cychwyn ac yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw gan ystod amrywiol o gerddorion a genres.
Croesawn Meilir Tomos i berfformio yn ein Cyngherddau Matinee Dydd Sadwrn. Mae Meilir yn un o artistiaid mwyaf beiddgar cerddoriaeth gyfoes, yn cyfuno crefft gân arbenigol gydag ymagwedd delynegol ddi-ofn a synwyredd sonig hynod eclectig.
Bydd Meilir yn perfformio rhai o'i gyfansoddiadau ei hun yn ogystal â gweithiau gan y cyfansoddwyr Philip Glass, Chilly Gonzales a Nils Frahm. Bydd Meilir hefyd yn taflu ambell syrpreis i'r set drwy perfformio rhai o'i hoff ganeuon.