Matinée: Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Amser Cinio Tŷ Pawb
Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / WrexhamMae ein rhaglen newydd Gaeaf / Gwanwyn o gyngherddau clasurol a chyfoes amser cinio wedi cychwyn ac yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw gan ystod amrywiol o gerddorion a genres.
Triawd Kell Wind Trio yw triawd ffliwt, clarinet a baswn. Mae'r tri aelod yn gerddorion siambr a cherddorfaol profiadol iawn ar ôl bod yn aelodau o gerddorfeydd a grwpiau siambr am dros ddeng mlynedd ar hugain.