
Noson Gomedi Tŷ Pawb gyda Steve Hall!
Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / WrexhamYmunwch â ni nos Wener 7fed o Dachwedd am noson o gomedi stand-yp hollol unigryw gan rai o gomedïwyr teithiol gorau'r DU!
Mae Steve Hall wedi'i enwebu ar gyfer Gwobr Gomedi Caeredin ac yn 1/3 o'r grŵp sgets chwedlonol 'We Are Klang' (BBC3). Mae Steve Hall yn ymddangos yn rheolaidd ar Sioe Radio Frank Skinner. Mae wedi cefnogi Russell Howard ar ei deithiau rhyngwladol yn 2017 (Round The World) a 2019 (Respite).