Mae Tŷ Pawb wedi’i enwi ymhlith y prif sefydliadau celfyddydol yng Nghymru i dderbyn cyllid o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf y Celfyddydau, a gyhoeddwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Dyfarnwyd grant o £72,000 i Tŷ Pawb i gomisiynu gwaith dylunio i wella mynedfa Arced Gogleddol yr adeilad ac ardal y Gofod Hyblyg yn neuadd y farchnad.
Y nod yw trawsnewid ac ehangu’r rhan hon o’r adeilad i greu amgylchedd celf a chwarae parhaol a chroesawgar, gan gynnal hyblygrwydd ar gyfer digwyddiadau a marchnadoedd.
Bydd y grant newydd yn ariannu cam dylunio cychwynnol y prosiect.
Os bydd y prosiect yn symud yn ei flaen yn llwyddiannus, gellir ceisio cyllid wedyn ar gyfer cam adeiladu’r prosiect.
Bydd cam dylunio’r prosiect yn adeiladu ar astudiaeth dichonoldeb ddiweddar (a ariannwyd hefyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a gynhaliwyd ar fynedfa Arced Gogleddol ac ardal y Gofod Hyblyg yn Tŷ Pawb.
Cynhaliwyd yr Astudiaeth Hyfywedd gan y penseiri arobryn, De Matos Ryan, a drafododd y materion â rhanddeiliaid a defnyddwyr allweddol Tŷ Pawb, gan gynnwys masnachwyr y farchnad, grwpiau cymunedol, artistiaid lleol a theuluoedd.
Roedd yr opsiwn a ffafriwyd yn yr astudiaeth hyfywedd yn dwyn y teitl “Trawsnewid ac ymestyn”, ac roedd yn nodi nodweddion allweddol megis:
• Ymestyn ardal y fynedfa tuag at Stryd Gaer.
• Creu profiad cyrraedd mwy a mwy croesawgar.
• Cadw nifer presennol stondinau’r farchnad.
• Gwella gwelededd drwy’r adeilad.
• Darparu mannau hyblyg sy’n cefnogi chwarae, perfformiadau, arddangosfeydd a digwyddiadau.
Bydd Cyngor Wrecsam bellach yn gwahodd cwmnïau sydd â’r cymwysterau priodol i gyflwyno cynnig cryf i gyflawni’r gwaith dylunio. Bydd y gwahoddiad i dendro ar gael i’w weld ar Sell2Wales o’r 16fed o Fedi.
Mae angen cwblhau’r cam hwn o’r gwaith dylunio erbyn mis Mawrth 2027.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Tŷ Pawb: “Ers i Tŷ Pawb agor yn 2018, rydym wedi chwilio’n rheolaidd am gyfleoedd i adolygu, addasu a gwella’r adeilad er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion esblygol ein cynulleidfaoedd – lleol, cenedlaethol a rhyngwladol – ac i ffynnu yn ein rôl fel prif ganolfan ddiwylliannol mewn dinas sydd bellach yn tyfu’n gyflym fel cyrchfan i dwristiaid a diwyilliant.
“Gyda chynnig Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant ar y gorwel, a llawer o brosiectau uchelgeisiol eraill ym meysydd adeiladu a datblygu diwylliannol yn digwydd ledled y ddinas, rydym yn falch iawn o weld Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn ymrwymo i gefnogi Tŷ Pawb a’n huchelgeisiau i wella ymhellach gyfleuster diwylliannol Wrecsam, sydd wedi ennill nifer o wobrau.”
“Mae Tŷ Pawb wedi’i leoli mewn ‘chwarter diwylliannol’ newydd sy’n ffynnu yn Wrecsam, ochr yn ochr â Chanolfan Ddarganfod Gwyddoniaeth Xplore! (sydd wedi’i hehangu’n ddiweddar) ac uwchraddiadau Stryd Henblas, safle blaenorol yr Hippodrome a Stryd Gaer. Mae hon yn gyfle gwych i ail-ddychmygu’r cornel hwn o adeilad Tŷ Pawb.
“Os byddwn yn bwrw ymlaen â’r dyluniad a ffafrir, bydd salon trin cŵn Bubbles – busnes lleol poblogaidd a hoffus – yn cael ei symud i leoliad newydd. Rydym eisoes wedi cael trafodaethau cadarnhaol gyda pherchennog y busnes ynghylch uned siop amgen addas iawn yn Tŷ Pawb; byddwn yn ceisio bwrw ymlaen â hyn pan fydd yn amlwg bod cyllid ar gael ar gyfer cam adeiladu’r prosiect.”
“Mae Tŷ Pawb yn gartref i bron i 30 o fasnachwyr annibynnol. Mae’n parhau â threftadaeth gyfoethog Wrecsam fel tref farchnad, ac yn darparu gofod masnachu hanfodol a fforddiadwy, yn ogystal â bod yn sbringfwrdd profedig ar gyfer busnesau newydd sbon a’r genhedlaeth gyffrous newydd o entrepreneuriaid sy’n dod i’r amlwg yn y ddinas. I gefnogi hyn, bydd nod allweddol – sef gwella’r Arced Gogleddol a’r ardal Gofod Hyblyg yn neuadd y farchnad – yn gallu cynyddu nifer yr ymwelwyr yn ystod y dydd o amgylch y farchnad ymhellach, ac rydym yn parhau i ymgysylltu â’n masnachwyr wrth i’r prosiect fynd rhagddo.”
“Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu hymrwymiad parhaus i Tŷ Pawb, gan ei gefnogi i fod yn lle lle gall pobl o bob oed, gallu a chefndir ddod i gwrdd, siopa, bwyta, cael profiadau, archwilio a chyd-greu.”
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru,
“Trwy’r cynllun buddsoddi hwn, rydym yn cefnogi prosiectau ledled y wlad fydd yn diogelu asedau diwylliannol gwerthfawr, yn gwella hygyrchedd, yn lleihau effaith amgylcheddol ac yn creu cyfleoedd newydd i artistiaid, cynulleidfaoedd a chymunedau. O uwchraddio lleoliadau mawr a mannau diwylliannol sy’n eiddo i’r gymuned i arloesi digidol a hyrwyddo ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio, mae’r prosiectau hyn yn dyst i ymrwymiad y sector gelfyddydol i sicrhau’r profiadau celfyddydol hygyrch o ansawdd uchel mae cymunedau Cymru yn eu haeddu.”
Meddai’r Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:
“Mae’r celfyddydau a diwylliant yn chwarae rhan hanfodol yn lles, creadigrwydd a ffyniant ein cymunedau. Trwy fuddsoddi yn y sefydliadau hyn heddiw, rydym yn helpu i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn gallu parhau i gael mynediad at brofiadau diwylliannol o ansawdd uchel, tra’n darparu’r cyfleusterau, yr adnoddau a’r cyfleoedd sydd eu hangen ar artistiaid ac ymarferwyr creadigol i ffynnu.
“Mae’r gronfa hon yn ymwneud â mwy na’r adeiladau eu hunain, mae’n ymwneud â diogelu’r lleoliadau a’r mannau sy’n dod â phobl at ei gilydd, yn cryfhau hunaniaeth leol, ac sy’n cefnogi swyddi a sgiliau ym mhob cwr o Gymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn cyrraedd sefydliadau o bob maint, o leoliadau blaenllaw i ofodau cymunedol ar lawr gwlad, gan sicrhau bod manteision y cyllid yn cael eu teimlo ledled Cymru.”
Darllenwch ddatganiad i’r wasg llawn Cyngor Celfyddydau Cymru ynghylch y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf

