Mae cyngherddau amser cinio am ddim yn dychwelyd i ganolfan ddiwylliannol Wrecsam – sydd wedi ennill nifer o wobrau – ar gyfer tymor yr hydref hollol newydd.
Mae rhaglen y tymor newydd yn cynnwys rhestr wych arall o gerddorion o’r ardal leol a thu hwnt, gan gynnwys Rufus Edwards (o Bersham), enillydd gwobr Cerddor Ifanc Cymru Pendine 2025, The Nova Saxophone Quartet a’r delynoes uchel ei bri, Katie Hedley.
Cynhelir y cyngherddau ar brynhawniau Mercher gan ddechrau am 1yp, ac maent yn hollol rhad ac am ddim. Nid oes angen archebu lle, ond gofynnir i’r gynulleidfa gyrraedd yn ddigon buan i ddod o hyd i sedd dda cyn i’r perfformiad ddechrau.
Croesewir rhoddion yn ddiolchgar.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sy’n gyfrifol am Dŷ Pawb: “Mae’r cyngherddau rhad ac am ddim yn parhau i fod yn un o’r digwyddiadau rheolaidd mwyaf poblogaidd ar raglen Tŷ Pawb, gan gynnig cyfle i ymwelwyr fwynhau seibiant o brysurdeb bywyd bob dydd a mwynhau awr o dawelwch yng nghwmni cerddorion gwirioneddol ragorol.
“Roedd hi’n wych gweld y gynulleidfa’n tyfu gyda phob cyngerdd yn ystod tymor yr haf diweddar. Mae’r cyngherddau wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch i bob math o gynulleidfa; felly, p’un a ydych chi’n mynychu’n rheolaidd neu’n hollol newydd i berfformiadau cerddoriaeth glasurol, cewch groeso cynnes.
“Mae’r cyngherddau’n ategu rhaglen ragorol Tŷ Pawb o weithgareddau yn ystod y dydd, sydd bellach yn cynnwys clybiau crefft, clwb cerddoriaeth, clwb garddio ar y to a sesiynau chwarae i deuluoedd.”
Mae tymor newydd y cyngherddau rhad ac am ddim yn dechrau ddydd Mercher, 9 Medi am 9pm.
Mae manylion llawn am y rhaglen a’r perfformwyr i’w gweld ar wefan Tŷ Pawb.

