Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

Arddangosfa: Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam

Tachwedd 5 - Rhagfyr 5
Wide shot showing the Wrexham AFC Foundation exhibtiion in Oriel Bach gallery space

 

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wrth eu bodd yn cydweithio â chanolfan gelfyddydau, marchnadoedd a chymunedol arobryn Tŷ Pawb i ddathlu dyrchafiadau cefn wrth gefn y clwb drwy lens y cefnogwyr.

Ail-fyw rhai eiliadau bythgofiadwy o lwyddiant diweddaraf y clwb

Wrth wneud sylwadau ar y digwyddiad pedair wythnos, dywedodd Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb am Dŷ Pawb, y Cynghorydd Hugh Jones: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam ar eu harddangosfa gyntaf erioed o’r math hwn, gan ddathlu’r clwb a’r gymuned.

“Mae’r effaith gadarnhaol y mae llwyddiant diweddar y clwb wedi’i chael ar y ddinas wedi bod yn hollol anhygoel, ac mae llawer iawn o glod yn haeddiannol am y gwaith allgymorth y maent wedi’i wneud i ymgysylltu â chymunedau Wrecsam a’u cefnogi.

“Fel canolfan gymunedol groesawgar Wrecsam i bawb, mae Tŷ Pawb yn lleoliad delfrydol i’r Sefydliad arddangos y gwaith y maent wedi’i wneud. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd newydd ddysgu mwy am effaith leol a byd-eang y prosiect.”

Wrth wneud sylwadau ar y digwyddiad pedair wythnos, dywedodd Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb am Dŷ Pawb, y Cynghorydd Hugh Jones: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam ar eu harddangosfa gyntaf erioed o’r math hwn, gan ddathlu’r clwb a’r gymuned.

“Mae’r effaith gadarnhaol y mae llwyddiant diweddar y clwb wedi’i chael ar y ddinas wedi bod yn rhyfeddol, ac mae llawer iawn o glod yn haeddiannol am y gwaith allgymorth y maent wedi’i wneud i ymgysylltu â chymunedau Wrecsam a’u cefnogi.

“Fel canolfan gymunedol groesawgar Wrecsam i bawb, mae Tŷ Pawb yn lleoliad delfrydol i’r Sefydliad arddangos y gwaith y maent wedi’i wneud. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd newydd ddysgu mwy am effaith leol a byd-eang y prosiect.”

“Mae’r arddangosfa a’r rhaglen ddigwyddiadau sy’n cyd-fynd â hi yn addo bod yn rhywbeth arbennig iawn, gyda rhai ymddangosiadau gwadd proffil uchel i’w cyhoeddi. Byddwn yn annog pawb yn Wrecsam a’r rhai sy’n ymweld â’r ddinas dros y pedair wythnos nesaf i ddod draw a darganfod mwy.”

Ychwanegodd Jamie Edwards, Cyfarwyddwr Cymunedol a Chadeirydd Ymddiriedolwyr Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam: “Rydym wrth ein bodd yn arddangos Clwb Pêl-droed Wrecsam yn Tŷ Pawb mewn ffordd mor hwyliog ac unigryw.

“Mae’n gyfle gwych i gefnogwyr ail-fyw rhai eiliadau bythgofiadwy o lwyddiant diweddaraf y clwb, ac i ddarganfod sut mae ein heffaith yn tyfu ledled Wrecsam a thu hwnt.”

Oriau agor:
Llun-Sad, 10am-5pm

Darganfyddwch fwy am Sefydliad Clwb Pêl-droed Wrecsam

Manylion

Lle

  • Tŷ Pawb
  • Stryd y Farchnad / Market Street
    Wrecsam / Wrexham, LL13 8BB
    + Google Map
  • Ffôn 01978 292144