Ysgrifennu Creadigol: Llythyrau Cariad at y Fan Hon

1876 Blwyddyn Ryfeddol – Ysgrifennu Creadigol: Llythyrau Cariad at y Fan Hon
Codwch eich pen ac archwiliwch Wrecsam trwy lygaid awdur.
Wedi’u hysbrydoli gan flodeugerdd *Wrexham Writers* a thraddodiad cyfoethog ysgrifennu teithio yn yr ardal, mae’r sesiwn hon yn gwahodd teuluoedd i ddathlu’r lleoedd, y bobl a’r eiliadau sy’n gwneud Wrecsam yn arbennig. Gyda’n gilydd, byddwn yn creu blodeugerdd ar y cyd o straeon, gan ddathlu Wrecsam trwy leisiau amrywiol.
Bydd pawb yn creu eu ‘mini-zine’ (cylchgrawn bach) eu hunain i fynd adref gyda nhw, yn llawn geiriau, syniadau a straeon o’r sesiwn – casgliad bach o deimladau mawr am y lle rydym yn ei alw’n gartref.
Beth i’w ddod gydag chi:
Gallwch ddisgwyl sesiwn ysgrifennu creadigol dan arweiniad, gyda awgrymiadau ysgafn ac ysbrydoliaeth. Dewch ag unrhyw beth rydych chi’n gyfforddus yn ei ddefnyddio i ysgrifennu (pen, llyfr nodiadau, ffôn, gliniadur ac ati) a diod. Bydd egwyl fer yng nghanol y sesiwn, ac mae croeso i chi gymryd egwyl unrhyw bryd y mae ei angen arnoch yn ystod y sesiwn.
Iaith:
Cynhelir y sesiynau yn bennaf yn Saesneg, gan ddefnyddio Cymraeg bob dydd, ond mae croeso i gyfranogwyr ysgrifennu a chymryd rhan yn yr iaith y maent yn gyfforddus yn ei defnyddio.
Mynediad:
Mae’r gweithdy hwn ar y llawr gwaelod. Mae toiled hygyrch ‘Changing Places’ ar y safle. Mae parcio am ddim i ddeiliaid Bathodyn Glas ar gael yn ein maes parcio aml-lawr. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad ychwanegol, anfonwch e-bost at teampawb@wrexham cyn y sesiwn.
Ynglŷn â Natasha Borton:
Mae Natasha Borton yn awdur, cerddor ac artist theatr o Wrecsam sydd wedi ennill gwobrau. Mae hi’n creu profiadau creadigol deniadol a chynhwysol sy’n annog pobl o bob oed i archwilio’r grefft o adrodd straeon, eu dychymyg eu hunain a rhythm ein bywydau bob dydd.
Ar gyfer 2026, Natasha yw’r Awdur Preswyl ar gyfer Afon Dyfrdwy ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru a WWFCymru, a’r Cyfarwyddwr Artistig ar gyfer Voicebox Wxm – y llwyfan ar gyfer perfformio geiriau llafar sydd wedi bod yn rhedeg hiraf yng Ngogledd Cymru.




