Matinée: Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Amser Cinio | Cantorion Rhos

Matinée: Cantorion Rhos | Côr Cymysg
Dydd Mercher | Tachwedd 26 | 1pm i 2pm
Mynediad am Ddim | Croeso i Roddion
Mae ein cyngherddau clasurol a chyfoes amser cinio yn parhau gyda pherfformiadau byw gan ystod amrywiol o gerddorion a genres. Gallwch fynychu’r cyngherddau hyn yn ddigymell yn ystod eich egwyl ginio, mae’r rhaglen yn para 45 i 55 munud ac yn aml yn arddangos cerddoriaeth siambr, datganiadau piano, cerddoriaeth werin, gitâr glasurol a deuawdau clasurol.
Mae perfformiadau bob yn ail ddydd Mercher rhwng 1pm a 2pm yn ein Gofod Perfformio, mae mynediad am ddim, ond rydym yn croesawu rhoddion. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn cyngerdd amser cinio, bydd ein cwrt bwyd ar agor yn gweini amrywiaeth o fwyd a diod blasus. Efallai yr hoffech chi hefyd wneud amser i ymweld â’r oriel cyn neu ar ôl y cyngerdd.
Rydym yn croesawu Cantorion Rhos i berfformio yn Nhŷ Pawb ar y 26ain o Dachwedd. Mae Cantorion Rhos yn gôr cymysg o dros 40 o leisiau sydd â chymwysterau proffesiynol a galwedigaethol niferus ac amrywiol. Er bod ganddynt ddylanwadau Cymreig cryf, maent yn bennaf yn gôr Saesneg ei iaith. Mae’r gerddoriaeth y mae’r côr yn ei pherfformio yn eang ei chwmpas, gan ganu gweithiau mawr fel Requiem Fauré yn ogystal â darnau hwyliog fel Rhythm of Life. Dewisir y darnau gan y Cyfarwyddwr Cerdd ac anogir awgrymiadau ar gyfer darnau newydd gan aelodau.




