
Noson Gomedi Tŷ Pawb

Noson Gomedi Tŷ Pawb
Ymunwch â ni nos Wener 5ed o Fedi am noson o gomedi stand-yp hollol unigryw gan rai o gomedïwyr teithiol gorau’r DU!
Rydym wrth ein bodd mai Bethany Black yw ein prif berfformiwr ym mis Medi yn Tŷ Pawb! Mae Bethany Black yn gomedïwr, actores ac awdures. Mae hi wedi bod yn perfformio ers dros 20 mlynedd ac wedi cefnogi llawer o berfformwyr ar daith gan gynnwys Tim Minchin, Sarah Millican, Joe Lycett a Paul Sinha. Wedi’i bendithio â thafod miniog ac awydd i rannu gormod, mae hi wedi cael ei chanmol gan y beirniaid am ei steil personol, cyffesol o gomedi.
‘Dark-tinged but magical’ (The Guardian)
‘The individual anecdotes are pitched perfectly… very funny.’ (Chortle)
Bydd yr ardal bwyd ar agor cyn y sioe a bydd y bar ar agor drwy’r nos!
Tocynnau: £12
Drysau: 7.30pm
Act gyntaf: 8.00pm
16+