Loading Digwyddiadau

« All Digwyddiadau

Seiniau Gwyllt Cymru – Bywyd yn y Coed

Awst 8 @ 11:00 - 16:00

Seiniau Gwyllt Cymru Bywyd yn y Coed

Gwaith cerddorfaol arloesol a phrofiad RhithRealiti trochiol sy’n eich cludo i goedwigoedd hynafol Dinefwr, gan asio cerddoriaeth, natur a thechnoleg i ysbrydoli gobaith.

Dydd Gwener, 8 Awst 2025

Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam

Y Gofod Hyblyg | 11yb-1yp & 2yp-4yp | Am Ddim

Trosolwg

Mae Bywyd yn y Coedyn daith drochiol o 8 munud trwy ganopi’r derw ym Mharc Dinefwr, lle mae cerddoriaeth a chanu adar yn plethu. Gyda sgôr wedi’i pherfformio gan Gerddorfa WNO a sain wedi’i recordio’n gyfan gwbl ar y safle, mae’r profiad ynamgylchynu’r gwyliwr â sain a delwedd. Mae’r portread byw hwn yn destun gwydnwch a harddwch natur yng ngwyneb pryder hinsawdd.

Y Profiad

Wedi’i greu fel ffordd o ailgysylltu pobl â natur, mae Bywyd yn y Coed yn waith cerddorfaol arloesol ac yn brofiad Rhith Realiti trochiol, dan gyfarwyddyd Jacinth Latta. Wedi’i gyfansoddi gan Owain Llwyd a’i berfformio gan Gerddorfa WNO, mae’r prosiect yn trawsnewid recordiadau ar leoliad gan Axel Drioli o Warchodfa Natur Genedlaethol Dinefwr yn gerddoriaeth. Mae dadansoddiadau sain o fywyd gwyllt brodorol yn cael euplethu i mewn i’r sgôr, gan ganiatáu i ganu adar asio gyda gwead cerddorfaol, tra bod siâp y tir ei hun yn ffurfio DNA harmonig y gwaith. Mae’n dyst i gerddoriaeth fyw athirwedd Cymru, gyda delweddau syfrdanol wedi’u dal mewn VR gan Domonic White.

Un dderwen. Mil o fywydau.

Yn y ffilm fer VR hon, rydym yn dyst i ddrama dawel bywyd coeden hynafol o ganopi ffyniannus i bydredd ffrwythlon. Trwy newidiadau tymhorol a gweadau sonig, mae’r goeden yn dod yn symbol o wydnwch. Nid yw ei chwymp yn ddiwedd, ond yn ddechrau i bren marw sy’n darparu maetholion hanfodol ar gyfer chwilod, ffyngau a thwf eginnewydd. Mae’r hyn sy’n ymddangos fel colled yn dod yn adnewyddiad. Dyma stori cylchred bywyd, sut mae natur yn trawsnewid yr hyn sydd wedi syrthio’n sylfeini i genedlaethau’r dyfodol.

Manylion

Dyddiad:
Awst 8
Amser:
11:00 - 16:00
Event Category:

Lle

Tŷ Pawb
Stryd y Farchnad / Market Street
Wrecsam / Wrexham, LL13 8BB
+ Google Map
Ffôn
01978 292144