
Taith Oriel: Allanol Always
Awst 4 @ 11:00 - 12:00

Taith iaith Gymraeg o arddangosfa unigol Anya Paintsil “Allanol Always”.
Mae Anya Paintsil yn artist tecstilau o Gymru a Ghana sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain a Glyn Ceiriog. Gan dynnu ysbrydoliaeth o’i phlentyndod yng Ngogledd Cymru, a’i thraddodiad Fante hynafol o decstilau ffigurol, mae Paintsil yn cyfuno arferion crefft a ddysgwyd iddi fel plentyn ifanc; gwneud rygiau, appliqué a brodwaith â llaw gyda thechnegau steilio gwallt afro i greu portreadau ar raddfa fawr. Mae ffigurau Paintsils yn archwilio posibiliadau a gwleidyddiaeth darluniau anghynrychioliadol o’r ffigur Du.