Port Talbot Gotta Banksy yn Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Mae Port Talbot Gotta Banksy yn ddrama newydd bwysig am bobl, pŵer a chelfyddyd stryd. Mae’n ddathliad o gryfder cymunedau i wrthsefyll holl heriau bywyd. Ymunwch â ni wrth i bobl Port Talbot rannu eu stori nhw yn eu geiriau eu hunain, yn y ddrama bwerus, deimladwy gair-am-air hon.

WEAREWIRED.LIVE – EMOM yn Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

GALW AR HOLL GARIADON SYNTH, CREAWYR SWN A DEWINIAID GWELADOL
Ydych chi’n creu cerddoriaeth electronig, yn chwarae offerynnau modiwlaidd neu caledwedd, neu’n perfformio delweddau byw? Rydym eisiau i chi berfformio yn WIRED @ Tŷ Pawb.

Noson wedi’i chysegru i gerddoriaeth electronig, anhrefn modiwlaidd, delweddau byw a threfniannau sonig creadigol.

YSTAFELL 1: WIRED – Artistiaid Byw a Delweddau
YSTAFELL 2: CLWB SYNTH –  Stiwdio Pop-up Rhyngweithiol Synths a Sgyrsiau

Noson Gomedi Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Ymunwch â ni ar nos Gwener 6ed o Fehefin am noson o gomedi stand-yp gan rai o ddigrifwyr teithiol gorau'r DU!

Matinée: Classical & Contemporary Concerts at Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Mae ein rhaglen newydd Gwanwyn / Haf o gyngherddau clasurol a chyfoes amser cinio wedi cychwyn ac yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw gan ystod amrywiol o gerddorion a genres.
Croesawn Meilir Tomos i berfformio yn ein Cyngherddau Matinee Dydd Sadwrn. Mae Meilir yn un o artistiaid mwyaf beiddgar cerddoriaeth gyfoes, yn cyfuno crefft gân arbenigol gydag ymagwedd delynegol ddi-ofn a synwyredd sonig hynod eclectig.
Bydd Meilir yn perfformio rhai o'i gyfansoddiadau ei hun yn ogystal â gweithiau gan y cyfansoddwyr Philip Glass, Chilly Gonzales a Nils Frahm. Bydd Meilir hefyd yn taflu ambell syrpreis i'r set drwy perfformio rhai o'i hoff ganeuon.

Tom Lawrinson: Buried Alive (And Loving It)

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Mae popeth yn ofnadwy ond mae hynny'n iawn, dadleua Tom Lawrinson yn ei sioe ddifyr hurt am deulu a thyfu i fyny mewn ogof danddaearol Sbaenaidd. Sioe i frodyr a chwiorydd a rannodd blentyndod ofnadwy, alltudion heb grys a chefnogwyr comedi fel ei gilydd.

Matinée: Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Amser Cinio

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Mae tymor y Gwanwyn / Haf o gyngherddau clasurol a chyfoes amser cinio ar y gweill. Yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw gan ystod amrywiol o gerddorion a genres. Yn aml yn arddangos cerddoriaeth siambr, datganiadau piano unigol, cerddoriaeth werin, gitâr glasurol a deuawdau clasurol. Mae perfformiadau bob yn ail ddydd Mercher rhwng 1pm a 2pm yn ein Gofod Perfformio, mae mynediad am ddim ond rydym yn croesawu rhoddion.

Digwyddiad Heneiddio’n Dda

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Digwyddiad Heneiddio’n Dda 26 Mehefin 2025 12pm – 2pm Dewch draw i’n digwyddiad Heneiddio’n Dda fydd yn eich helpu chi...

Sinfonia Cymru: Songs for the Earth yn Fyw yn Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Sinfonia Cymru, Bridget O’Donnell a Misha Mullov-Abbado sy’n eich gwahodd ar siwrne trwy sain ac ysbryd.
Yn cyfuno cerddoriaeth Cymraeg, clasurol, gwerin a jazz wedi’i ysbrydoli gan fyd natur, wrth iddynt ddathlu ein cysylltiad gyda’r tir, dŵr, haul a’r lleuad.

Matinée Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Amser Cinio

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw gan ystod amrywiol o gerddorion a genres. Gallwch fynychu'r cyngerdd yn ddigymell yn ystod eich egwyl ginio, mae'r rhaglen yn para 45 i 55 munud ac yn aml yn arddangos cerddoriaeth siambr, datganiadau piano unigol, cerddoriaeth werin, gitâr glasurol a deuawdau clasurol. Mae perfformiadau bob yn ail ddydd Mercher rhwng 1pm a 2pm yn ein Gofod Perfformio, mae mynediad am ddim ond rydym yn croesawu rhoddion.

Noson Gomedi Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Ymunwch â ni ar nos Wener 4ydd o Orffenaf am noson o gomedi stand-yp gan rai o ddigrifwyr teithiol gorau'r DU!

Cynhaliwyd y noson gan y digrfwr o Wrecsam Funny Bones Jones, mae'r noson yn gweld pedwar o'r comedïwyr teithiol gorau yn cymryd y llwyfan yn Tŷ Pawb.

The Ghost of Dylan Thomas Drama gan Peter Read

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

The Ghost of Dylan Thomas, Drama gan Peter Read. Yn The Ghost of Dylan Thomas, rydym yn dod ar ei draws wrth iddo edrych yn ôl ar ei fywyd a'r nifer o gamgymeriadau personol a wnaed. Rydym gydag ef wrth iddo wylio cast yn cynhesu ar gyfer perfformiad o'i ddrama Under Milkwood.

Noson gyda Sioned Williams

Noson gyda'r Delynores Sioned Williams yn Tŷ Pawb, Wrecsam Dydd Mercher, 6ed Awst 2025 Tocynnau £12 / £15 Drysau: 7pm...

Noson gyda’r Delynores Sioned Williams yn Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Ymunwch â Sioned Williams am noson gyffrous o straeon a cherddoriaeth o’i gyrfa ddisglair, wrth iddi berfformio cerddoriaeth ‘o hynny hyd yn hyn’ sy’n adlewyrchu digwyddiadau allweddol yn ei bywyd, gan ganolbwyntio ar yr angerdd sydd ganddi dros berfformio a chreu. Mae Sioned yn plethu ei stori gyda geiriau ac anecdotau, teimlad dwys a digonedd o hiwmor!