Seiniau Gwyllt Cymru – Bywyd yn y Coed

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Mae Bywyd yn y Coedyn daith drochiol o 8 munud trwy ganopi’r derw ym Mharc Dinefwr, lle mae cerddoriaeth a chanu adar yn plethu. Gyda sgôr wedi’i pherfformio gan Gerddorfa WNO a sain wedi’i recordio’n gyfan gwbl ar y safle, mae’r profiad ynamgylchynu’r gwyliwr â sain a delwedd. Mae’r portread byw hwn yn destun gwydnwch a harddwch natur yng ngwyneb pryder hinsawdd.

The Gentle Good yn Fyw yn Tŷ Pawb

Tŷ Pawb Stryd y Farchnad / Market Street, Wrecsam / Wrexham

Enw lwyfan Gareth Bonello, cyfansoddwr ac offerynnydd o Gaerdydd yw The Gentle Good. Mae Gareth wedi ei ddylanwadu yn gryf gan gerddoriaeth a thraddodiadau werin Cymru yn ogystal â dylanwadau o bedwar ban byd. Mae’r holl lot yn dod at ei gilydd i greu cerddoriaeth werin hudol a modern yn y Gymraeg a’r Saesneg.