Os ydych wedi ymweld â Thŷ Pawb yn ddiweddar efallai eich bod wedi gweld y neges amserol hon wrth fynedfa ein Arcêd De.

Mae’r feinyl llawr wedi’u creu gan yr artist Alana Tyson. Mae Alana yn esbonio ychydig mwy am y prosiect: “Crëwyd ‘Edrych ar ôl ein gilydd’ yn 2016 mewn ymateb i gau gorsaf ynni niwclear olaf Cymru, Wylfa, fel rhan o’r prosiect Pŵr yn y Tir. arwydd llawr finyl hirsgwar; wedi’i osod ar drothwy gofod mewnol fel bod yn rhaid cerdded drosto, rhaid ymgysylltu ag ef, i fynd i mewn.

“Mae’r lliw porffor a’r llythrennau gwyn yn iwtilitaraidd, yn fwriadol sylfaenol ac heb eu cynllunio, gan ail-greu’r arwydd wrth fynedfa’r orsaf bŵer; cefais fy nharo gan y farddoniaeth a’r ddynoliaeth mewn lleoliad mor annisgwyl.

“Mae’r darn hwn yn teimlo’n fwy perthnasol heddiw nag erioed.”

Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl trwy arian gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb