Clwb Celf i’r Teulu

Mae Clwb Celf i’r Teulu yn dathlu creadigrwydd a chwarae trwy wneud, paentio a lluniadu ymarferol. Bob wythnos byddwn yn datgelu trysorfa o ddeunyddiau celf, rhannau rhydd ac ailgylchu ar thema ein harddangosfeydd i’w trawsnewid i ba bynnag waith celf, modelau ac ategolion ffasiwn y gallwch chi eu breuddwydio!
Mae Clwb Celf i’r Teulu yn addas ar gyfer plant o bob oed ac rydym yn annog rhieni, neiniau a theidiau a gofalwyr i gymryd rhan hefyd – nid clwb celf plant mo hwn, ei Glwb Celf i’r Teulu!
– Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.
– Darperir grawnfwyd brecwast i blant am ddim yn y clwb hwn.
Sesiwn galw heibio yw Clwb Celf i’r Teulu, ond rydym yn argymell archebu lle i wneud yn siŵr bod gennych le yn ystod cyfnodau prysurach. Cynigir lleoedd yng Nghlwb Celf i’r Teulu ar sail rhodd ‘talu’r hyn y gallwch’, fel y gallwch ddewis faint i’w dalu yn ôl yr hyn y gall eich teulu ei fforddio. Mae eich rhoddion yn ein cefnogi i ddarparu gwasanaeth celfyddydol hygyrch i deuluoedd lleol.




