Skip to main content Scroll Top
Tŷ Pawb News
Cyflwynwch eich gweithiau celf nawr ar gyfer Arddangosfa Agored Pawb 2026

Mae ein harddangosfa alwad agored dwyflynyddol yn dychwelyd ar gyfer ei pumed rhifyn. Roedd rhifyn 2024 yn cynnwys dros 100 o weithiau celf, yn dilyn ymateb record i’n galwad agored, gyda bron i 450 o artistiaid yn cyflwyno gweithiau.

Mae’r arddangosfa alwad agored dwyflynyddol yn dychwelyd i oriel amlwobr Wrecsam a gyrhaeddodd rownd derfynol gwobr Amgueddfa’r Flwyddyn yr Art Fund (2022) – ar gyfer ei pumed rhifyn.

Roedd rhifyn 2024 yn cynnwys dros 100 o weithiau celf, yn dilyn ymateb record i’n galwad agored, gyda bron i 450 o artistiaid yn cyflwyno gweithiau.

Gwahoddir artistiaid i gyflwyno hyd at dri gwaith celf i’w hystyried ar gyfer eu harddangos yn ein harddangosfa agored.

Mae’r gystadleuaeth yn gyfle i bob artist proffesiynol ac amatur arddangos eu gwaith ochr yn ochr yn ein horiel arobryn, a chael cyfle i ennill un o dair gwobr eleni.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno:
4/10/26
11.59yh

Dyddiadau’r arddangosfa:
14/11/26 – 27/2/27

Gwobrau
Gwobr y Beirniaid: £1000
Gwobr y Cyhoedd: £500
Gwobr y Masnachwr: £500

Ffi ymgeisio
£18 am hyd at 3 gwaith celf
£12 ar gyfer prisiau gostyngol

Ewch i wefan Tŷ Pawb am ragor o fanylion.